The essential journalist news source
Back
23.
February
2018.
Cyhoeddi targed o 2,000 o Dai Cyngor newydd

 

Cyhoeddi targed o 2,000 o Dai Cyngor newydd

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi amlinellu ei nod i ddarparu 2,000 o Dai Cyngor newydd i helpu i fodloni'r galw cynyddol am dai cymdeithasol o safon yn y ddinas.

 

Daeth y cyhoeddiad am gynlluniau'r Cyngor i ddyblu ei darged presennol o ddarparu 1,000 o Dai Cyngor newydd gan y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yn y Cyngor Llawn neithiwr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bwriad y Cyngor i ddarparu 1,000 yn fwy o Dai Cyngor newydd yn y ddinas, yn ychwanegol at y 1,000 o gartrefi erbyn 2022 rydym eisoes wedi ymrwymo iddynt.

 

"Rydym ymhlith llond llaw o awdurdodau lleol yn unig sy'n codi Tai Cyngor newydd, ac ni welwyd cynnydd ar y raddfa hon erioed o'r blaen.Roedd ein targed cychwynnol o 1,000 o gartrefi yn ddechrau da, ond rydym yn uchelgeisiol ac rydym am fynd gam ymhellach.

 

"Rydym yn deall pa mor bwysig yw cael cartref fforddiadwy o ansawdd da, a chyda'r rhestr aros tai hir iawn yn y ddinas, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y cyfan a allwn i fynd i'r afael â'r pwysau cynyddol i ddarparu cartrefi addas i'r bobl sydd eu hangen arnynt."

 

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn gweithio ar y cyd â Wates Residential, datblygwr tai cenedlaethol, mewn rhaglen deng mlynedd sydd ar waith ers tro i adeiladu 1,500 o gartrefi newydd ar draws 40 safle yn y ddinas.Bydd o leiaf 40% o'r cartrefi newydd yn dai fforddiadwy.

 

Er mwyn cyflawni'r targed gwreiddiol o 1,000 o gartrefi, mae'r Cyngor hefyd yn prynu eiddo o'r farchnad agored, yn troi adeiladau presennol yn gartrefi, yn defnyddio atebion tai arloesol megis systemau modwlar oddi ar y safle ac yn cytuno i gynigion pecyn lle prynir eiddo newydd yn uniongyrchol o ddatblygwyr.

 

Bydd y 1,000 o dai cyntaf yn cael eu cwblhau erbyn 2022 ac rydym wrthi'n clustnodi eiddo neu dir addas dan berchenogaeth y Cyngor i adeiladu Tai Cyngor ar gyfer ail gam y rhaglen a fydd yn cyflawni'r targed o 2,000 o gartrefi.