The essential journalist news source
Back
16.
February
2018.
Disgybl ifanc yn helpu elusen

Torrodd Lois Driscoll o Ysgol Gynradd Gabalfa ei gwallt yn yr ysgol heddiw, er mwyn codi arian i Ymddiriedolaeth The Little Princess. 

Rhoddodd Lois, sy'n bump oed, ei gwallt i'r elusen genedlaethol, sy'n darparu penwisgoedd â gwallt go iawn, am ddim, i blant a phobl ifanc sydd wedi colli eu gwallt eu hunain drwy driniaeth canser a salwch. 

Dywedodd Lois, a ddysgodd am Ymddiriedolaeth Little Princess gan gynorthwy-ydd addysgu a oedd wedi rhoi ei gwallt hi:"Dwi am gael fy ngwallt wedi'i dorri i greu penwisg gan fy mod i eisiau gwneud plentyn sydd â chanser yn hapus." 

Yn ogystal â rhoi ei gwallt, mae Lois yn codi arian i Ymddiriedolaeth The Little Princess.Wedi'i chreu gan ei thad, mae'r dudalen JustGiving -www.justgiving.com/fundraising/lois-driscoll - hyd yma wedi codi dros £1,000. 

Dywedodd Nick a Helen Driscoll, rhieni Lois:"Cawson ni syndod pan ddywedodd Lois wrthym ei bod am dorri ei gwallt, ond yna eglurodd pam ei bod am wneud hynny ac roedd yn deimlad emosiynol a balch. 

"Ei phenderfyniad hi oedd hyn, ac roeddem am ei chefnogi'n llwyr.Am beth mor annwyl i'w wneud - mae'n dangos pa fath o ferch yw hi."  

Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Gabalfa hefyd wedi bod yn helpu Lois i godi arian, gan wisgo gwisg ffansi ar y diwrnod. Dywedodd y pennaeth, Mrs Carrie Jenkins:"Rydyn ni mor falch o Lois.Fel ysgol, gwnaethom godi £250 ac rydym wrth ein bodd yn cefnogi merch fach mor dosturiol."