The essential journalist news source
Back
14.
February
2018.
Disgybl Ysgol Gynradd Gabalfa'n helpu elusen

Mae merch ifanc o Ysgol Gynradd Gabalfa yng Nghaerdydd yn dangos ei chefnogaeth i Ymddiriedolaeth The Little Princess drwy roi 12 modfedd o'i gwallt iddi. 

Bydd Lois Driscoll, pump oed, yn torri ei gwallt ddydd Gwener, 16 Chwefror a'i roi i'r elusen genedlaethol, sy'n darparu penwisgoedd â gwallt go iawn, am ddim, i blant a phobl ifanc hyd at 24 oed, sydd wedi colli eu gwallt eu hunain drwy driniaeth canser a salwch. 

Dywedodd Lois, a ddysgodd am Ymddiriedolaeth Little Princess gan gynorthwy-ydd addysgu a oedd wedi rhoi ei gwallt:"Dwi am gael fy ngwallt wedi'i dorri i greu penwisg am fy mod i am wneud plentyn sydd â chanser yn hapus." 

Yn ogystal â rhoi ei gwallt, mae Lois yn codi arian i Ymddiriedolaeth The Little Princess.Wedi'i chreu gan ei thad, mae tudalen JustGiving -www.justgiving.com/fundraising/lois-driscoll- hyd yma wedi codi bron £800. 

Dywedodd Nick a Helen Driscoll, rhieni Lois:"Cawson ni syndod pan ddywedodd Lois wrthym ei bod am dorri ei gwallt, ond yna eglurodd pam ei bod am ei wneud ac roedd yn deimlad rhyfeddol. 

"Ei phenderfyniad hi oedd hi, ac roeddem am ei chefnogi'n llwyr.Am beth mor annwyl i'w wneud - mae'n dangos pa fath o ferch yw hi."  

I'w helpu i godi arian, mae Ysgol Gynradd Gabalfa wedi gofyn i ddisgyblion naill ai wisgo fel tywysoges neu arwr ar y dydd Gwener, neu ddod i'r ysgol â gwallt ffynci.  

Dywedodd Carrie Jenkins, Pennaeth Ysgol Gynradd Gabalfa:"Rydyn ni mor falch o Lois.Mae wedi siarad am wneud y peth anhunanol hwn ers tro ac mae'n bleser ei chefnogi."