The essential journalist news source
Back
13.
February
2018.
Hwb i Burnham Avenue

 

Hwb i Burnham Avenue

 

Mae rhodfa siopa brysur yn nwyrain y ddinas wedi ei gweddnewid diolch i Gynllun Adfywio Cymdogaethau Cyngor Caerdydd.

 

Mae £150,000 wedi ei fuddsoddi yn yr ardal o gwmpas siopau Burnham Avenue yn Llanrhymni, gan wella'r ardal i fusnesau a thrigolion lleol.

 

Tîm Adfywio Cymdogaethau'r Cyngor, sy'n cynnal rhaglenni gwella amgylcheddol a chymunedol mewn cymdogaethau ar hyd a lled y ddinas, sydd wedi bod â gofal dros yr adfywiad.

 

Mae'r gofod cyhoeddus o gwmpas siopau Burnham Avenue wedi ei wella; mae palmentydd wedi eu trwsio a'u glanhau, biniau sbwriel newydd wedi eu gosod a choed wedi eu plannu.Mae'r ardal barcio a'r safle bws hefyd wedi eu gwella.

 

 

Mae'r bum siop leol wedi cael llenni metel newydd ac mae arwyddion newydd wedi eu gosod ar dair uned.

 

Mae murlun newydd ar ben y rhodfa yn goron ar y cyfan. Mae'r murlun yn cynnwys delweddau o gymuned a hanes Llanrhymni, a'r artist Andrew Harford fu'n gyfrifol am droi syniadau pobl leol yn realiti.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i fuddsoddi mewn cymunedau lleol ac rydyn ni am greu lleoedd gwell i bobl fyw, gweithio a siopa ynddyn nhw.

 

"Yn rhan o'n Cynllun Adfywio Cymdogaethau, cyflwynodd cynghorwyr lleol syniadau i wella'u cymunedau ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i aelodau Llanrhymni am eu mewnbwn i'r cynllun hwn, sydd wir yn rhoi bywyd newydd i'r ardal."