The essential journalist news source
Back
9.
February
2018.
Y Gig Fawr yn dychwelyd i Gaerdydd, Dinas Gerdd

Eleni mae cerddoriaeth wedi ei gosod wrth galon Datblygiad y Ddinas gyda chyhoeddi strategaeth gerddoriaeth Caerdydd ac ymrwymiad y Cyngor i sicrhau dyfodol cerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby.Rydym felly'n falch o gyhoeddi dychweliad cystadleuaeth dalent fwyaf credadwy'r ddinas sefY Gig Fawr.Yn ei ôl am y seithfed flwyddyn y gwanwyn hwn yn 2018, mae'n debyg y bydd y gystadleuaeth dalent Gymreig hon hyd yn oed yn fwy llwyddiannus eleni.

Mae Caerdydd yn gweithio gydag arweinwyr rhyngwladol yr ymgyrch Dinasoedd Cerdd - Sound Diplomacy, ar ddatblygu strategaeth gerdd newydd fydd yn gwarchod bywyd cerddorol Caerdydd ac yn rhoi hwb i ddelwedd ryngwladol y ddinas.  Mae cerddoriaeth nawr wrth galon dyfodol Caerdydd, wrth i'r ddinas gael ei chydnabod yn ‘Ddinas gerdd' swyddogol, gan annog cynhyrchu cerddoriaeth newydd a rhoi'r amodau i gefnogi talent newydd yn uchel ar yr agenda.Bydd ymgeiswyr ar gyfer Y Gig Fawr yn cael cyfle i berfformio pan fo sylw pawb ar Gaerdydd.

 

Bydd bandiau a ddaw i'r rhestr fer yn cael cyfle i berfformio gerbron gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth mewn dwy rownd gyn-derfynol cyn cynnal y ffeinal yn y Clwb Ifor Bach enwog ddydd Iau 5 Ebrill, gan roi'r llwyfan i gerddorion arddangos eu cerddoriaeth yng nghanol y brifddinas mewn lleoliad eiconig ar y Stryd Womanby enwog, sydd wedi ei dynodi bellach yn ardal ddiwylliannol arwyddocaol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury; "Mae enwi Caerdydd fel Dinas Gerdd law yn llaw ag ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu cerddoriaeth fyw ledled y ddinas, yn plethu'n berffaith gyda dychweliad y Gig Fawr 2018. Wedi ei hadnabod yn y gorffennol fel un o fentrau chwilio talent mwyaf credadwy De Cymru rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i rywfaint o artistiaid newydd hynod yn y gorffennol sydd wedi mynd yn eu blaenau i greu gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.

"Mae Caerdydd yn ddinas mor greadigol eisoes gyda chronfa anferth o dalent sy'n tyfu, rwyf wrth fy modd yn gallu croesawu'r hen ffefryn hwn yn ei ôl i galendr digwyddiadau'r ddinas, yn yr hyn sy'n addo bod yn bennod newydd gyffrous i gerddoriaeth yn y Brifddinas."

 

 

Bydd y prif enillydd yn derbyn pecyn gwobrau wedi ei ddylunio i fynd â nhw ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y diwydiant cerdd.Bydd hyn yn cynnwys amser recordio ac ymarfer yn y Music Box Studios, gweithio gyda chynhyrchydd REM Charlie Francis, cyfweliad a sylw gan Media Wales,hefyd offer gan PMTyn ogystal a gwobrau eraill i'w cyhoeddi. 

 

Mae'r gystadleuaeth ar agor i unrhyw artistiaid 16 oed neu'n hŷn ledled De Cymru; bydd modd ymgeisio o ddydd Llun 12 Chwefror 2018 a bydd yn cau am 5pm ddydd Gwener 2 Mawrth 2018. Yn newydd ar gyfer 2018, cynhelir y rowndiau cyn-derfynol mewn lleoliadau gwahanol er mwyn annog ymgeiswyr o ystod o genres a chefndiroedd.

Bydd y 12 cerddor/band a gaiff eu dewis ar gyfer y rhestr fer yn mynd yn eu blaenau i gystadlu mewn dwy rownd gyn-derfynol ddydd Mercher 14 Mawrth yn y Fuel Rock Club ar Stryd Womanby a dydd Sadwrn 17 Mawrth yng Nghanolfan Gymunedol Cathays.

 

Dros y chwech blynedd diwethaf mae cannoedd o gerddorion wedi rhoi cynnig ar y gystadleuaeth sydd wedi tanio gyrfaoedd llawer o fandiau amlwg De Cymru gan gynnwysThe Moonbirdsyn 2017,Maddie Jonesyn 2013 aRusty Shackleyn 2012, yn ogystal â rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol felThe HimalayasacOfelia. Cydnabyddir y gystadleuaeth fel cam pwysig i fandiau ifanc er mwyn ennill dilynwyr a sylw ehangach gan y diwydiant.

 

Mae llawer o berfformwyr eraill yn y Gig Fawr wedi mynd yn eu blaenau i ymddangos yng Ngŵyl Sŵn, Glastonbury a rhaglen prif ddigwyddiadau Cyngor Caerdydd.Maent hefyd wedi eu cydnabod yn rheolaidd yn rhestr 40 o fandiau newydd gorau y South Wales Echo.

 

Mae beirniaid yn y gorffennol wedi cynnwys beirniad cerdd y South Wales Echo Dave Owens, cyn reolwr Coldplay Estelle Wilkinson, cyfarwyddwr Gŵyl Sŵn John Rostron ac Andrew Shay gynt o Kids in Glass Houses.Mae Heather Brown, Rheolwr Datblygu Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, hefyd wedi bod ar y panel ac mae'n gyfrifol am drefnu digwyddiadau Cyngor Caerdydd, gan gynnig gigs sy'n talu mewn digwyddiadau o bwys fel canlyniad uniongyrchol i roi cynnig ar y Gig Fawr.Bydd beirniaid eleni yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
 

Bydd tocynnau i’r gigs i gyd yn £5 ac ar gael o bob lleoliad.

I wneud cais ac i weld y telerau ac amodau llawn ewch i  www.visitcardiff.coma chwblhau’r ffurflen gais a’i yrru ynghyd â dau MP3 o’ch cerddoriaeth at biggig@cardiff.gov.uk.

Rhaid i o leiaf un cynnig fod yn gân wreiddiol.

Dilynwch ni ar Twitter @digwyddiadaucaerdydd @YGigFawr1 @croesocaerdydd

#CaerdyddYwCerdd  #CaerdyddYwGigFawr