Cynhaliwyd digwyddiad yn Neuadd Dewi Sant i gydnabod cyflawniadau rhieni Dechrau'n Deg Caerdydd.
Gan siarad yn y digwyddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Ar fy ymweliadau diweddar â gwasanaethau Dechrau'n Deg Caerdydd, gwelais â'm llygaid fy hun ymrwymiad a brwdfrydedd y rhieni sy'n mynychu grwpiau a chyrsiau magu plant.
"Gall pawb sydd yma heddiw yn casglu eu tystysgrifau fod yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni - mae'r ymrwymiad i fynychu cyrsiau wythnosol, ochr yn ochr â bod yn rhieni i blentyn neu blant bach, yn glodwiw.
"Ers 11 mlynedd bellach, mae rhaglen Dechrau'n Deg Caerdydd wedi bod gweithio'n ddyfal ym mhob cwr o'r ddinas i gynnig amrywiaeth o gymorth i deuluoedd. Ni allaf ond ddychmygu'r balchder y mae'r gweithwyr Dechrau'n Deg sydd yma heddiw yn ei deimlo o weld cymaint o rieni a phlant yn well eu byd o ganlyniad i'w gwaith.
"Llongyfarchiadau i'r holl rieni sy'n cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled. Dymunaf y gorau i chi i'r dyfodol, a gobeithiaf weld llawer ohonoch chi yma eto wrth i chi symud 'mlaen i gyflawni gwobrau pellach gyda Dechrau'n Deg."
Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i thargedu at blant 0 i 3 blwydd ac 11 mis oed, ynghyd â'u teuluoedd, mewn ardaloedd penodol o Gaerdydd. Mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi rhieni a phlant.