The essential journalist news source
Back
15.
January
2018.
Cyllid er mwyn datblygu Projectau Cymunedol

Bydd y ffordd y mae Cyngor Caerdydd yn rheoli cyllid Adran 106 ar gyfer datblygu projectau cymunedol yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yfory (16 Ionawr, 2018). 

Bydd aelodau'n clywed ymateb y Cabinet i argymhellion archwiliad craffu i'r broses ariannu a gyflwynwyd fis Medi diwethaf. 

Arian yw cyllid Adran 106 sy'n cael ei roi gan ddatblygwyr ar gyfer projectau cymdeithasol a chymunedol yn rhan o'r broses gynllunio. Roedd adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o'r enw 'Rheoli Cyllid Adran 106 ar gyfer Datblygu Projectau Cymunedol' yn canolbwyntio'n bennaf ar sut y gellid gwella'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer dyrannu'r arian hwn i sicrhau bod blaenoriaethau lleol yn cael eu hystyried. 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Roedd yr Archwiliad Tasg a Gorffen yn argymell un broses syml ar gyfer dyrannu cyllid Adran 106 yn seiliedig ar elfennau megis asesu a dilysu syniadau project ac adnoddau cefnogol. Mae'n hanfodol bwysig bod y math hwn o gyllid mor syml ac addas at y diben â phosibl fel bod yr arian yn cael yr effaith fwyaf posibl mewn cymunedau ledled y ddinas." 

Mae cyfarfod yfory am 4.30pm a bydd yn cael ei ddarlledu'n fyw yma:https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/328307