The essential journalist news source
Back
12.
January
2018.
Eithriad treth gyngor i bobl sy’n gadael gofal

Eithriad treth gyngor i bobl sy'n gadael gofal

 

Caiff pobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghaerdydd eu heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor yn y ddinas.

 

Yn dilyn pasio cais am eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r Dreth Gyngor yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Tachwedd 2017,mae y Cabinet wedi cymeradwyo gostyngiad o hyd at 100% ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yn y ddinas tan eu pen-blwydd yn 25 oed.

 

Canfu adroddiad gan Gymdeithas y Plant yn 2015 fod pobl sy'n gadael gofal yn grŵp sy'n agored i fynd i ddyledion y dreth gyngor ac y gallai symud i lety annibynnol a rheoli eu cyllidebau yn gyfan gwbl am y tro cyntaf fod yn heriol, yn arbennig os ydynt yn methu taliadau'r dreth gyngor.

 

Nid oes eithriad penodol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yn neddfwriaeth y Dreth Gyngor ond mae gan y Cyngor eisoes bolisi Rhyddhau rhag y Dreth Gyngor fel y gwêl yn addas, fesul achos. Bydd dosbarth newydd yn y polisi ar gyfer eithrio pobl sy'n gadael gofal.

 

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i gadw plant a phobl ifanc Caerdydd sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod yn ddiogel a cheisio'r un canlyniadau ar eu cyfer ag y byddai unrhyw riant ar gyfer ei blentyn ei hun.

 

"Mae Pobl sy'n Gadael Gofal ymhlith y grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymuned a thrwy roi gostyngiad Treth Gyngor tan maent yn 25 oed, a byddwn yn helpu i liniaru rhywfaint ar y pwysau cychwynnol sydd ar ein pobl ifanc wrth iddynt bontio o ofal i fywyd oedolyn, a lleihau'r peryg y byddant yn mynd i ddyled wrth iddynt ddysgu i drin eu harian."