The essential journalist news source
Back
19.
December
2017.
Datganiad Cyng. Thorne 15/12/17

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae'n galonogol iawn gweld bod cymaint o bobl yn poeni am y digartref yng Nghaerdydd ac yn teimlo'n ddigon cryf dros y peth i fynd allan i brotestio. Does neb am weld pobl yn dioddef ac yn gorfod byw ar y stryd. Mae hyn yn broblem ledled y DU, sy'n cyffwrdd â phawb, ac yn broblem yr ydym yn gweithio'n galed i'w datrys yn y ddinas.

"Rwy'n gwybod bod pobl yn protestio am eu bod yn credu nad oes digon yn cael ei wneud ond rwy am iddyn nhw wybod nad oes yr un awdurdod yng Nghymru yn gwneud cymaint â Chaerdydd.

"Rwy hefyd am iddynt wybod nad oes angen i neb gysgu y tu allan dros nos. Ar hyn o bryd mae digon o lefydd gennym i roi llety i bawb. A dweud y gwir roedd digon o lefydd gennym drwy gydol y flwyddyn.

"Ga' i roi'r rhifau i chi. Mae 216 o lefydd hostel rheng flaen yn y ddinas, 45 gwely brys a 390 o unedau llety cymorth.

"Mae gennym ni fwy o ddarpariaeth tywydd oer eleni nag erioed o'r blaen - cyfanswm o 86 lle ychwanegol - mae lle wedi bod ar gael bob nos i unrhyw un sydd am ddod i mewn, sy'n dangos bod y broblem yn llawer mwy cymhleth na mater o gynnig lle i gysgu dros nos. 

"Mae rhai o'r bobl sy'n cysgu ar y stryd yn wynebu problemau dyrys iawn ac mewn rhai amgylchiadau yn dewis peidio â manteisio ar y llety a gynigir gennym. Yn yr amgylchiadau hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol gyda nhw allan ar y stryd yn ddyddiol.  Gall ymgysylltu fel hyn gymryd amser hir i gyrraedd canlyniad cadarnhaol am fod y problemau lawer yn fwy dyrys na chynnig gwely yn unig.

"Mae rhai wedi beio'r Cyngor am godi blociau llety myfyrwyr yn y ddinas tra bod pobl yn cysgu ar y stryd - ond rhaid iddynt sylweddoli mai datblygiadau y mae'r sector preifat wedi talu amdanynt yw'r rhain. Nid datblygiadau'r cyngor ydyn nhw. Fodd bynnag, yn ddiweddar rydym ni (y Cyngor) wedi cytuno i ariannu nifer o brojectau tai blaengar i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas. Bydd y gwaith ar y projectau hyn - sy'n cynnwys creu cartrefi allan o gynwysyddion llongau - yn dechrau yn fuan.

"Gwyddom fod pobl yn pryderu am y bobl y maen nhw'n eu gweld ar strydoedd canol y ddinas, ac os yw pobl am helpu'r unigolion yma sy'n agored i niwed i ailadeiladu eu bywydau, mae llawer o ffyrdd mwy buddiol o wneud gwahaniaeth na rhoi arian iddynt ar y stryd. Mewn gwirionedd gallai arian parod annog pobl i aros ar y stryd a pheidio defnyddio'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, a all weddnewid eu bywydau.

"Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch newydd, CAERedigrwydd, i annog pobl i roi drwy neges destun er mwyn codi arian i helpu pobl i symud oddi ar y strydoedd. Bydd pob ceiniog gaiff ei chodi yn mynd tuag at helpu'r digartref i weddnewid eu bywydau. Neu gall trigolion sy'n pryderu wirfoddoli gydag elusennau sy'n cynnig cymorth i'r digartref neu'r rhai hynny sydd mewn peryg o fod yn ddigartref.

  "Rwyf am i bobl wybod bod amrywiaeth o wasanaethau i helpu pobl yn y ddinas ac mae ein tîm Allgymorth yn gweithio saith diwrnod yr wythnos, ddydd a nos, i ymgysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd neu sydd mewn perygl o fod yn y sefyllfa honno.

Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag elusennau digartrefedd megis Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth, Wallich a'r YMCA i gynnig llety mewn hosteli, canolfan ddydd i'r digartref a gwasanaeth bws nos. Os yw pobl sydd mewn angen yn cysylltu â ni fe wnawn bopeth yn ein gallu i'w helpu nhw. Os yw'r cyhoedd am helpu buaswn yn eu hannog i edrych ar yr ymgyrch CAERedigrwydd ac i wirfoddoli i helpu."