The essential journalist news source
Back
15.
December
2017.
Dathlu adeiladu cartref newydd i Ysgol Hamadryad drwy dorri tywarch

Cynhaliwyd seremoni arbennig er mwyn nodi dechrau'r gwaith adeiladu ar Ysgol Hamadryad, yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed yn Butetown, Caerdydd. 

[image]Torrwyd y tywarch ar safle newydd sbon yr ysgol gan y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a'r Farwnes Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. 

Hefyd yn bresennol oedd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, a Rhian Carbis, Pennaeth Ysgol Hamadryad, yn ogystal â phlant yr ysgol a Dafydd Tristan Davies, Cadeirydd y Llywodraethwyr. 

Daeth staff a gwleidyddion lleol a oedd hefyd ynghlwm wrth y project o Gyngor Caerdydd, a Morgan Sindall, y contractwr a bennwyd i adeiladu'r ysgol newydd i gymryd rhan yn y seremoni hefyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae hwn yn gyfnod ardderchog, nid yn unig i blant, staff a rhieni Ysgol Hamadryad, ond i'r gymuned gyfan hefyd. Bydd Ysgol Hamadryad yn gwasanaethu rhai o'r ardaloedd mwyaf amrywiol yng Nghymru, ac mae'n wych gweld ysgol cyfrwng Cymraeg yn dod i Butetown am y tro cyntaf. 

"Mae Ysgol Hamadryad yn rhan o'r broses barhaus i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a rhoi dewis mwy helaeth i rieni yng Nghaerdydd. Mae Caerdydd 2020 - ein gweledigaeth am addysg a dysgu yng Nghaerdydd - yn glir yn ymrwymo i gynnig mwy o lefydd ysgol, gan sicrhau bod darpariaeth ar gael i bob teulu sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg." 

Mae Ysgol Hamadryad yn cynrychioli buddsoddiad o bron i £10m yn yr ardal hon. Caiff y project ei ariannu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru trwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £164m ar gyfer y brifddinas. 

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: "Mae'n bleser cymryd rhan yn seremoni torri tywarch heddiw ar gyfer yr ysgol sy'n cynrychioli'r buddsoddiad cyntaf mewn addysg gynradd Gymraeg yn Butetown. Mae'n galonogol gweld cymaint o alw am addysg Gymraeg mewn ardal lle byddai pobl, yn draddodiadol, yn fwy tebygol o glywed Somali neu Norwyeg yn cael ei siarad na'r Gymraeg. 

"Rydym wedi gosod targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Er mwyn cyflawni'r targed hwn, mae addysg, yn enwedig i blant o deuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg, yn allweddol. Felly rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r buddsoddiad o bron i £10 miliwn yn yr ysgol newydd gyda chyllid o bron i £7 miliwn gan y Rhaglen Ysgolion ac Addysg y 21ain Ganrif a'u bod yn canmol Cyngor Caerdydd am weithio i wella mynediad i'r rhieni a'r disgyblion hynny sy'n dewis darpariaeth Gymraeg." 

Cafodd yr ysgol ei sefydlu ym mis Medi 2016, mewn adeiladau dros dro gerllaw Ysgol Gynradd Parc Ninian yn Grangetown. Mae'n gwasanaethu ardaloedd Butetown, Canton, Grangetown a Glan-yr-afon. 

Yn ystod y seremoni torri tywarch, dywedodd Mrs Rhian Carbis, Pennaeth Ysgol Hamadryad: "Rwyf yn Bennaeth ffodus iawn, sydd â'r anrhydedd a'r fraint o agor y drysau i Ysgol Hamadryad. Heb os, mae heddiw yn gam arwyddocaol tuag at wireddu'r freuddwyd o sefydlu ysgol barhaol a chartref newydd sbon i Ysgol Hamadryad. 

"Mae cymuned yr ysgol gyfan - Llywodraethwyr, staff, rhieni, ac yn bwysicach fyth, y plant, yn falch iawn o fod yn rhan annatod o'r gymuned hon. Ein gweledigaeth yw sefydlu ysgol gymunedol, amlddiwylliannol ac amlieithog ardderchog yma yn Butetown. Dyma gyfle euraid i gynnig addysg cyfrwng Cymraeg i genedlaethau o blant newydd." 

[image]

Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, ac i Ysgol Hamadryad symud i'w gartref parhaol newydd sbon yn gynnar yn 2019. 

 2 ddosbarth mynediad, bydd yr adeilad newydd yn rhoi lle i hyd at 420 o ddisgyblion, yn ogystal â 48 o lefydd meithrin cyfwerth ag amser llawn. 

Dywedodd Rob Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Morgan Sindall: "Rydym yn falch o fod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd i adeiladu'r ysgol arbennig hon. Mae gennym raglen o weithgareddau ymgysylltu cyffrous a fydd yn fuddiol i ddisgyblion a'r gymuned ehangach yn ystod y project." 

Mae enw'r ysgol wedi ymwreiddio'n ddwfn yn hanes yr ardal. Ysbyty llong oedd yr Hamadryad a angorwyd ar Afon Taf rhwng 1866 a 1905, yn agos i safle'r ysgol newydd. 

Mae ffocws cymunedol yr ysgol yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, a fydd ar gael i'w defnyddio y tu allan i oriau'r ysgol, ystafelloedd newid ac ystafell gymunedol. 

Ysgol Hamadryad yw'r seithfed cynllun i ehangu a gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd ers 2012. Gweler cynlluniau cyfrwng Cymraeg eraill yn yr £284m Band B, Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i Gaerdydd a gyhoeddwyd wythnos diwethaf.