The essential journalist news source
Back
13.
December
2017.
Datganiad 13/12/17

Mae gan Gaerdydd agwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at gynorthwyo cysgwyr ar y stryd i gael llety a gallwn gynnig help a chyngor i unigolion ymgysylltu â’r ystod o wasanaethau sydd ar gael yn y ddinas.

Ers mis Ebrill 2017, mae ein tîm Allgymorth a’n partneriaid wedi sicrhau bod gan 191 o gysgwyr ar y stryd lety.

Rydym yn gweithio gydag elusennau megis Wallich, Byddin yr Iachawdwriaeth a’r Huggard i ddod â phobl oddi ar y strydoedd a lle nad yw hyn yn bosibl – gan eu bod yn dewis peidio â defnyddio gwasanaethau neu lety- rydym yn gweithio gyda nhw bob dydd ar y strydoedd.

Rydym yn parhau i weithio’n galed gyda’n gilydd i gefnogi pobl i gael mynediad at wasanaethau sy'n golygu y gallant roi terfyn ar fyw ar y strydoedd a newid eu bywydau er gwell .

Nid oes polisi yng Nghaerdydd yn ymwneud â chymryd bagiau cysgu neu eiddo personol oddi ar gysgwyr ar y stryd. 

Yn amlwg, ni ellir gadael eiddo trwy'r dydd mewn drysau siopau neu ar y stryd lle y gallant achosi rhwystr i'r cyhoedd, perygl tân neu berygl iechyd.Os bydd yr heddlu'n gofyn, er enghraifft, bydd ein timau’n symud yr eitemau sy’n achosi’r rhwystr.

Bydd deunydd gwely ffres a glân ar gael gan elusennau digartrefedd yn y ddinas ac mae sawl unigolyn yn gadael eu deunydd gwely ar y stryd, yn gwybod y gallant gael deunydd gwely sych yn hawdd. 

Mae swyddogion yn monitro eitemau sydd wedi'u gadael ar y stryd ac yn ceisio symud yr eitemau hyn ond os yw’n ymddangos eu bod wedi’u gadael neu os yw’r heddlu neu fusnesau yn gofyn iddynt gael eu symud gan eu bod yn credu eu bod wedi'u gadael.