The essential journalist news source
Back
8.
December
2017.
HWB I DARGED TAI

HWB I DARGED TAI

 

Rhoddwyd hwb arall i'r nod o adeiladu 1,000 o gartrefi Cyngor dros y pum mlynedd nesaf pan gytunwyd ar gynlluniau pecyn gyda Chymdeithas Tai Cadwyn.

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi targed o 1,000 o gartrefi newydd i'r ddinas ateb y galw cynyddol am dai cymdeithasol fforddiadwy o ansawdd.

 

Bydd y y cynnig pecyn yn cynnwys Cadwyn yn datblygu 50 fflat gydag un a dwy ystafell wely yn y safle oddi ar Clarence Road, cyn y byddai'r Cyngor yn caffael a chymryd awenau'r gwaith o reoli'r eiddo wedi cwblhau.

 

Bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen yn dilyn asesiadau ariannol manwl a dyma'r ail gynnig pecyn rhwng y Cyngor a Chymdeithas Tai Cadwyn yn y misoedd diweddar ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo cynlluniau i gaffael 30 fflat newydd yn Courtenay Road yn Sblot ym mis Hydref.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Rydyn ni'n gwneud cynnydd da o ran ein nod i adeiladu 1,000 o gartrefi Cyngor newydd yn y ddinas dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo mewn nifer o safleoedd yn ein rhaglen Cartrefi Caerdydd, sy'n cynnwys 600 cartref newydd dan adain y Cyngor a thrwy gynlluniau llai fel y cynigion pecyn hyn, rydyn ni'n dod yn agosach fesul tipyn at fwrw ein targed.

 

"Bydd y datblygiad hwn yn agos at ganol y ddinas gyda mynediad da at amwynderau a chysylltiadau trafnidiaeth lleol mewn ardal lle mae lefelau uchel o angen am dai cymdeithasol".