The essential journalist news source
Back
8.
December
2017.
Pryd ar Glud dros gyfnod y Nadolig

Pryd ar Glud dros gyfnod y Nadolig

 

Bydd gwasanaeth Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd yn dosbarthu i gwsmeriaid dros wyliau banc yr ŵyl am y tro cyntaf.

 

Gall cwsmeriaid y gwasanaeth nawr fwynhau pryd o fwyd poeth, maethlon yn eu cartrefi ar Ddydd San Steffan a Dydd Calan.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Dwi wrth fy modd ein bod wedi penderfynu cynnig y gwasanaeth ar wyliau banc cyfnod y Nadolig am y tro cyntaf.

 

"Mae Pryd ar Glud yn wasanaeth gwych - cymaint mwy na dim ond mynd â bwyd i'n cwsmeriaid. Mae'n rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw a'u teuluoedd ac yn rhoi'r cyfle i gymdeithasu i'r rheini a allai fynd diwrnodau heb siarad â rhywun arall.

 

"Ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn arbennig, pan mae hi'n dywyll ac oer tu allan, mae pobl hŷn a bregus ein cymunedau ar flaen ein meddwl. Mae'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn cynnig cymorth amhrisiadwy i'r cwsmeriaid hyn."

 

Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnig Pryd ar Glud i bobl fregus ym mhob rhan o'r ddinas ers 1978, a lansiwyd brand newydd sbon yn gynharach eleni.

 

Gall pobl hunan-atgyfeirio i'r gwasanaeth neu gael eu hatgyfeirio gan deulu, ffrindiau, cymdogion neu weithwyr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys gwiriad lles cymdeithasol hefyd ac mae ein gyrwyr wedi meithrin perthynas gref â'u cleientiaid.

 

Gall cwsmeriaid sy'n bodloni un o'r meini prawf canlynol ddefnyddio'r gwasanaeth:

  • Pobl sy'n ei chael hi'n anodd paratoi pryd o fwyd yn ddiogel

  • Pobl sy'n esgeuluso eu hunain neu a fyddai'n bwyta deiet amhriodol heb y gwasanaeth

  • Pobl nad ydynt yn gallu siopa am fwyd

  • Pobl sydd ag anabledd meddyliol neu gorfforol

  • Pobl y mae angen cymorth arnynt i wella yn dilyn ymweliad â'r ysbyty neu salwch; salwch neu wyliau gofalwr, neu brofedigaeth.

Mae'r gwasanaeth fforddiadwy hwn yn darparu ar gyfer pawb o bob oedran, nid dim ond yr henoed, a gall cwsmeriaid ddewis pryd a pha mor aml y cânt bryd bwyd. Mae amrywiaeth eang o brydau bwyd, yn darparu ar gyfer amrywiaeth o ddietau, cyflyrau a dewisiadau diwylliannol, ar gael am £3.90 y dydd am brif gwrs a £4.50 am brif gwrs a phwdin.