The essential journalist news source
Back
7.
December
2017.
Gwirfoddoli Caerdydd: Lansio gwefan newydd

Gwirfoddoli Caerdydd: Lansio gwefan newydd

 

Bydd gwefan newydd yn hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghaerdydd yn cael ei lansio heddiw.

 

Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn borth newydd sydd wedi'i sefydlu i annog pobl i wirfoddoli yn y ddinas ac er mwyn galluogi grwpiau cymunedol, partneriaid a gwasanaethau'r Cyngor i rannu amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ganddynt i'w cynnig.

 

Mae'r wefan wedi'i datblygu gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (CTSC), Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd, Cadwch Gaerdydd yn Daclus, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Spice a Gwirfoddoli Cymru.

 

Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn galluogi dinasyddion i ddewis y math o waith gwirfoddoli yr hoffent ei wneud ac ym mha ardal o'r ddinas. Mae cyfleoedd ar gael ar sail fyrdymor neu hirdymor gyda phrojectau lleol a grwpiau cymunedol neu gyda sefydliadau mwy megis y Cyngor. Mae croeso i unrhyw un gymryd rhan, beth bynnag eu hoedran, profiad neu sgiliau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae llawer o fuddion ynghlwm wrth wirfoddoli gan gynnwys ennill sgiliau a gwybodaeth, cwrdd â ffrindiau newydd a chymdeithasu, a gall hefyd helpu pobl i gael y profiad sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i waith.

 

"Yn rhan o'n gweledigaeth Uchelgais Prifddinas, rydym yn ymrwymedig i gefnogi pobl i weithio eto drwy ddarparu rhwydwaith o gyfleoedd gwirfoddoli lle y gallwn ennill profiad a magu hyder i ganfod gwaith.

 

"Mae llawer o bobl mewn sefyllfa lle y mae ganddynt rywfaint o amser sbâr ac maent eisiau rhoi'n ôl i'w cymuned, ond nid ydynt yn gwybod lle i ddechrau.

Bellach, gwirfoddoli Caerdydd yw'r cam cyntaf hwnnw ac rwy'n annog pobl i edrych drwy'r wefan newydd i ddod o hyd i gyfle sy'n addas ar eu cyfer nhw.

 

"Fel Cyngor, rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd i wirfoddoli gan gynnwys cynorthwyo mewn Hybiau neu ganolfannau chwarae a bod yn llywodraethwr ysgol." Pan fyddwch yn gwirfoddoli gyda'r Cyngor, rydym yn ymrwymedig i'ch cefnogi chi, fel bod eich profiad yn un gwerth chweil."

 

Dywedodd y Cynorthwy-ydd Cabinet dros Ymgysylltu Cymunedol, y Cyng. Jennifer Burke - Davies: "Rydym eisiau ei gwneud hi'n haws i bobl wirfoddoli a chodi ymwybyddiaeth ohono yng Nghaerdydd. Bydd y wefan newydd hon yn chwarae rhan fawr wrth wneud hynny, gan roi cyfle i ddinasyddion Caerdydd gyfrannu eu gwybodaeth leol, eu sgiliau a'u dealltwriaeth at wasanaethau a'u cymunedau eu hunain."

 

Mae hybiau cymunedol Caerdydd yn un o wasanaethau'r Cyngor a gefnogir gan wirfoddolwyr ac roedd 62 o bobl wedi'u recriwtio i gynnig eu hamser a'u hymdrechion am ddim o fis Ebrill tan fis Medi eleni.

 

Caiff y wefan newydd ei lansio yn Hyb Grangetown y prynhawn yma pan fydd y Cyng. Thorne yn cwrdd â gwirfoddolwyr yn yr hyb ac yn dysgu mwy am eu rolau a'u profiadau.

 

Dywedodd y Cyng. Thorne: "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'n gwirfoddolwyr am eu gwaith caled, a welodd y gwasanaeth yn ennill y Categori Digidol yng ngwobrau gwirfoddolwyr y flwyddyn CGGC eleni.

 

"Nid yw pobl yn gwirfoddoli gan ddisgwyl cael cydnabyddiaeth neu wobr ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn diolch iddynt am eu gwaith gwych. Caiff ymroddiad yr holl wirfoddolwyr o amgylch y ddinas ei werthfawrogi'n fawr ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y dyfodol."

 

Ewch iwww.Volunteercardiff.co.uki gael gwybod mwy am wirfoddoli yn y ddinas neu dilynwch @VolunteerCDf ar Twitter.