The essential journalist news source
Back
1.
December
2017.
Cynllun Llifogydd y Rhath yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu

Bydd cynllun a ddyluniwyd i stopio Nant Lleucu rhag gorlifo dros ei glannau yn cael ei adolygu gan Bwyllgor Craffu Amgylcheddol Cyngor Caerdydd ddydd Mawrth. 

Mae Cynllun Llifogydd y Rhath wedi cynnwys adeiladu waliau llifogydd, argloddiau, lledaenu sianel yr afon yng Ngerddi Nant Lleucu a gwaith peirianneg i gynyddu llif mwyaf y nant. Gwnaeth Nant Lleucu orlifo ddiwethaf yn ystod llifoedd afon uchel yn 2007 a 2009. 

Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi bod yn gwneud y gwaith yn rhan o Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd mewn sawl lleoliad rhwng Gerddi Nant Lleucu a'r Afon Rhymni ger Archfarchnad Morrison's ar Heol Casnewydd. 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Er mai cynllun Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwn heb unrhyw ymyriad uniongyrchol gan y Cyngor, mae'n amlwg bod effaith wedi bod ar barciau'r Cyngor yn ardal Pen-y-lan, ac mae hyn wedi peri pryder yn y gymuned leol. Yn sgil hyn, mae'n iawn ac yn briodol bod Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd yn craffu'r cynllun. Byddwn yn annog trigolion i gysylltu â mi os ydynt am roi tystiolaeth i'r Pwyllgor." 

Bydd y cyfarfod yn cael ei we-ddarlledu'n fyw, a bydd manylion ar sut i wylio yn cael eu rhannu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd yn nes at ddyddiad y cyfarfod.