The essential journalist news source
Back
30.
November
2017.
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gartref parhaol i ysgol uwchradd fwyaf newydd Caerdydd

[image]

Torrwyd y tywarch gan Ddirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, mewn seremoni i nodi dechrau'r gwaith o adeiladu cartref newydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, a fydd yn agor yn fuan yn 2019. 

Buon nhw yng nghwmni gwesteion gan gynnwys disgyblion o'r ysgol a'r pennaeth, Mr Martin Hulland, ysgolion cynradd lleol a gwleidyddion lleol ar safle Penally Road yng Nghaerau, sef cartref newydd yr ysgol werth £36 miliwn. 

Wrth gyfarch yn y seremoni, dywedodd y Cynghorydd Merry: "Mae hwn yn achlysur nodedig i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Mae'r project yn fuddsoddiad o £36 miliwn nid yn unig yn addysg ein plant, ond yn y gymuned yn ogystal. 

"Ond mae ysgol newydd yn fwy nag adeilad yn unig, ac mae'r Pennaeth, Martin Hulland, ei staff, y gymuned gyfan a hefyd ein partneriaid, drwy Bartneriaeth Addysg Greadigol Caerdydd, yn gwneud eu gorau glas i sicrhau y bydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn llwyddiant. 

"Rydw i'n credu bod hawl gan bob plentyn i gael addysg dda ac adeilad ysgol o safon, a bydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn enghraifft ardderchog o gyflawni hynny o'n hochr ni." 

Mae'r ysgol newydd yn cael ei hariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd, sydd werth £164 miliwn. 

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella safonau addysg yng Nghymru, gan gynnwys goresgyn y rhwystrau i ddysgu a chefnogi'r gwaith o ddarparu ysgolion a cholegau sy'n addas at y diben sydd o'r maint priodol, yn y lleoliad priodol a chyda'r cyfleusterau priodol i gyflwyno ein cwricwlwm newydd. 

"Mae ein cefnogaeth i'r ysgol newydd £36 miliwn hon yn dystiolaeth bellach o'r ymrwymiad hwnnw ac rwy'n falch o fod wedi gallu bod yn bresennol yn y seremoni torri'r tywarch. 

"Mae'r project hwn yn rhan gam cyntaf Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, a fydd yn cynnwys ail-adeiladu ac adnewyddu mwy na 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru, sef y buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a cholegau er y 1960au. 

Agorwyd Ysgol Uwchradd Cymunedol Gorllewin Caerdydd ym mis Medi, mewn lleoliad dros dro ar hen safle Coleg Cymunedol Llanfihangel yn Nhrelái. 

Dywedodd Mr Hulland: "Mae anhygoel meddwl mai dim ond ychydig dros dri thymor arall sydd gennym yn ein cartref dros dro cyn i ni symud i'r cartref £36 miliwn ardderchog hwn ar gyfer Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. 

"Mae hwn yn gyfle heb ei ail, ac rydw i wirioneddol wedi mwynhau'r flwyddyn ddiwethaf ers i mi ddod yn bennaeth yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd . Mae llawer iawn o waith wedi'u wneud y tu ôl i'r llenni yn cynllunio'r cwricwlwm ysgol newydd a sicrhau ein bod yn cydweithio'n glos gyda'n hysgolion cynradd lleol i sicrhau trefniadau pontio esmwyth i'r ysgol uwchradd. 

"Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn ymwneud â thrawsnewid bywydau a chyfleoedd bywyd, ac rydym wedi dechrau ar y broses honno yn barod. Rydw i'n falch o fod yn cydweithio â staff ymroddgar i sicrhau fod popeth yn ei le, fel y gallwn gael cychwyn gwirioneddol dda, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud gwahaniaeth, drwy'r dydd, bob dydd, pan fyddwn yn symud i'n cartref newydd. 

Bydd wyth dosbarth mynediad yn yr ysgol a bydd yr adeilad newydd yn gallu derbyn hyd at 1200 disgybl ar 13,500 metr sgwâr o loriau. 

Gyda'r adeiladau ysgol newydd, mewn tri bloc ar wahân, bydd y safle 8.8 hectar yn cynnwys caeau chwarae ac ardal gemau defnydd cymysg. 

Yn ogystal â bod yn fuddsoddiad gwerth £36 miliwn yn yr ardal, bydd y project hefyd yn dod â buddion eraill i'r gymuned yn ystod y gwaith adeiladu, yn cynnwys gweithio gydag ysgolion lleol a chydweithwyr, cyfrannu at gynlluniau cymunedol, cyfleoedd hyfforddi a gwaith a chyfleoedd i fusnesau bach a chanolig i gyflenwi deunydd a gwasanaethau. 

Dywedodd Neal Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr Willmott Dixon, y cwmni sy'n adeiladu'r ysgol: "Rydym yn falch o ddechrau ar y gwaith adeiladu'r ysgol newydd ardderchog hon i bobl Gorllewin Caerdydd. Drwy gydol y rhaglen, bydd Willmott Dixon yn manteisio ar bob cyfle i gynnig cyflogaeth, prentisiaethau a hyfforddiant i drigolion yr ardal leol. Gyda'n gilydd byddwn yn creu gwaddol o sgiliau a phrofiad, wrth adeiladu'r ysgol newydd fel ffocws ar gyfer pobl o bob oedran yn y gymuned hon." 

Mae Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn 'ysgol fraenaru', sy'n hyrwyddo cysylltiadau a wnaed dan ‘Bartneriaeth Addysg Greadigol Caerdydd'. Yn rhan o honno, gwnaeth rhai o enwau mawr sector creadigol Caerdydd ymuno â'r awdurdod lleol i hyrwyddo creadigrwydd wrth galon dysgu. 

Mae'r bartneriaeth yn cynnig lleoliadau profiad gwaith cyffrous i blant a phobl ifanc, ac mae'n eu helpu i wneud y gorau o'r cyfleoedd yn y sector creadigol a diwylliannol yn cynnwys ffilm, teledu, dylunio digidol a'r theatr. 

Mae hefyd yn rhoi sgiliau creadigol iddynt at yrfaoedd a swyddi eraill. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae hwn yn gyfle ardderchog i atgyfnerthu addysg trwy roi creadigrwydd wrth galon dysgu ac agor cyfleoedd yn economi greadigol lwyddiannus Caerdydd. 

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n helpu pobl ifanc y ddinas i roi eu hunain yn y sefyllfa gryfaf bosibl i fanteisio'n llawn ar economi lewyrchus Caerdydd. 

"Rwyf fi am wneud yn siŵr nad oes unrhyw un ar ôl ac nad yw cefndir cymdeithasol plentyn yn ffactor dyngedfennol wrth bennu ei allu i greu gyrfa lwyddiannus i'w hun." 

Y ‘Partneriaid Sefydlol' yw Amgueddfa Cymru, BBC Cymru, Cyngor Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Sgiliau Creadigol a Diwylliannol, Prifysgol De Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru.