The essential journalist news source
Back
27.
November
2017.
Corff gwarchod addysg yn cydnabod trawsnewidiad Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae Estyn, bwrdd arolygu addysg Cymru, wedi cyhoeddi adroddiad heddiw yn tynnu Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Tredelerch, Caerdydd o'r categori mesurau arbennig. 

Mae hyn o ganlyniad i'r awdurdod lleol a'r ysgol yn cyflwyno newidiadau i weddnewid canlyniadau, safonau ac ymddygiad. Mewn rhai meysydd, mae'r ysgol bellach yn defnyddio arferion blaengar yn y sector. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Rwyf wrth fy modd fod Estyn wedi rhoi asesiad mor wych i Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae canfyddiadau'r arolwg diwethaf yn dyst i sut mae'r staff, y llywodraethwyr, yr awdurdod lleol a'r gymuned ysgol gyfan wedi cydweithio i sicrhau newid sylweddol a gynhelir. 

"Mae'n arbennig braf gweld bod yr arolygwyr wedi cydnabod y cynnydd cryf a wnaed o ran ateb y pum argymhelliad a wnaethant yn flaenorol i godi safonau yn yr ysgol. 

"Mae hyn yn newyddion gwych i bawb a weithiodd gydag Ysgol Uwchradd y Dwyrain ac mae'n rhoi sail ardderchog ar gyfer gwella eto wrth i'r ysgol baratoi at symud i'w chartref newydd sbon, gwerth miliynau o bunnoedd, y flwyddyn nesaf." 

Canfu arolygwyr Estyn fod tuedd o ganlyniadau'n gwella ym mhob cyfnod allweddol. Mae Mathemateg a Saesneg wedi gwella'n sylweddol, ac mae'r perfformiad nawr yn dda iawn o'i gymharu ag ysgolion eraill. 

Mae perfformiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim wedi gwella'n sylweddol a gwnaeth yr arolygwyr sylwadau am systemau effeithiol yr ysgol i gefnogi disgyblion. 

Daeth hyn â gwelliannau mawr i brydlondeb a phresenoldeb, a gwelwyd bod y disgyblion yn gweithio gyda brwdfrydedd a diddordeb. Dywedodd yr arolygwyr hefyd fod y disgyblion yn ymddwyn yn dda mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol. 

Wrth groesawu adroddiad Estyn, dywedodd Pennaeth Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Mr Armando Di-Finizio: "Rwyf ar ben fy nigon â chanlyniad ein hymweliad diweddaraf gan Estyn. Roedd gallu cyhoeddi wrth staff nad ydyn ni bellach yn destun mesurau arbennig yn foment emosiynol i'r staff i gyd, sydd wedi bod drwy gymaint ac wedi gweithio mor ddiwyd dros y blynyddoedd diwethaf. 

"Rwy'n sicr y bydd hyn yn rhoi hwb i'r gymuned leol, y mae ganddi bellach ysgol dda ar gyfer ei phlant. Mae'r newydd hwn, ynghyd â'r adeilad newydd rydyn ni ar fin symud iddo adeg y Nadolig, yn anrheg wych i bawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol.

"Roedd yr arolygwyr yn frwdfrydig iawn am y cynnydd rydyn ni wedi ei wneud mewn cyfnod mor fyr, a dywedon nhw bethau da am rai o'r arferion blaengar yn y sector rydyn ni'n eu gweithredu nawr. 

"Y gamp nawr fydd parhau â'r gwaith da wrth symud i'r adeilad newydd, datblygu ein partneriaeth â Choleg Caerdydd a'r Fro a chreu campws gyda dysgu o'r radd flaenaf gyda'n gilydd, a fydd yn destun eiddigedd trwy Gymru gyfan!" 

Bydd Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn symud i Gampws Cymunedol newydd y Dwyrain yn ystod gwyliau'r Nadolig ac yn agor ym mis Ionawr. Bydd yn safle arloesol, ar y cyd â Choleg Caerdydd a'r Fro, yn cynnig pontio di-ffwdan at addysg a hyfforddiant ôl-16. Caiff y project gwerth £26 miliwn ei ariannu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru trwy raglen Ysgolion 21ain Ganrif.