The essential journalist news source
Back
23.
November
2017.
10 darn o gyngor teithio dros Y Nadolig

CERDDED NEU FEICIO?Byw'n lleol ac yn dod i mewn i'r ddinas i siopa neu i gyfarfod ffrindiau? Beth am guro'r traffig trwy gerdded neu feicio?
 
 

DEFNYDDIO TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS- Gall defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gynt ac yn haws na gyrru i mewn i'r ddinas. Os ydych yn byw ger safle bws neu orsaf drenau, gadewch eich car gartref a defnyddiwch un o'r rheinyhttp://www.traveline.cymru/

 

DEWIS PARCIO A THEITHIO- Mae safleoedd parcio a theithio ar gael i fynd i siopa. Yn ystod yr wythnos, mae'r safle parcio a theithio yng nghyfnewidfa Pentwyn, oddi ar yr A48 - CF23 8HH (ac yn gollwng/codi yn Ffordd Churchill). Dros y penwythnos, mae cyfleuster Parcio a Theithio ychwanegol yn Neuadd y Sir - CF10 4UW (yn gollwng/codi yn y Llyfrgell Ganolog newydd).

 

PAM MAE TREFNIADAU TEITHIO'N NEWID YN YSTOD DIGWYDDIADAU MAWR YNG NGHAERDYDD?Mae'n rhaid cau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau mawr ar sail diogelwch cyhoeddus. Edrychwch ynwww.cardiffnewsroom.co.uk- rhoddir gwybod am fanylion cau ffyrdd o flaen llaw bob tro.

 

YDY'R SIOPAU'N AROS AR AGOR PAN FYDD DIGWYDDIAD MAWR YN DIGWYDD?Ydyn, mae'r ddinas ar agor ar gyfer busnes. Os ydych am siopa mewn llonydd pan nad yw'n rhy brysur, ewch i siopa yn ystod y digwyddiad. Dyma pryd fydd y siopau dawelaf.

 

PARCIO AR Y STRYD-Os oes arnoch angen gyrru i Gaerdydd, mae parcio ar gael trwy'r ddinas.Rydym am i bobl barcio eu ceir cyn gynted ag y gallant, felly mae App am ddim - Parcio Caerdydd - nawr ar gael trwy'r App Store neu Google Play. Mae hwn yn dangos i breswylwyr ac ymwelwyr ym mhle mae mannau parcio ar gael. Mae App hefyd ar gael i bobl dalu am barcio - MiPermit.

 

MEYSYDD PARCIO PREIFAT -Os oes arnoch angen gyrru i Gaerdydd, mae gan Ganolfan Siopa Dewi Sant, John Lewis a'r NCP feysydd parcio yng nghanol y ddinas. Cynghorir i chi gyrraedd y meysydd parcio hyn yn fuan, cyn 11:30 i osgoi'r traffig.

 

PRYD YW'R AMSER GORAU I DDOD I GAERDYDD I SIOPA? Mae'r oriau siopa dros gyfnod y Nadolig yn cael eu hymestyn wrth i'r galw gynyddu. Cynghorir ymwelwyr i ddod i'r ddinas yn fuan. Mae rhan fwyaf y siopau'n agor am 9:00am tan 6:00pm ond oriau busnes siopau Canolfan Dewi Sant 2 ydy 9:30am tan 8:00pm.

 

CYMRYD TACSI?Os ydych yn defnyddio tacsi du a gwyn (Cerbyd Hacni) ac mae'r daith yn cychwyn ac yn terfynu o fewn ffiniau Caerdydd; mae'n rhaid i'r gyrrwr tacsi dderbyn y daith a defnyddio'r mesurydd ac eithrio os ydych yn ymosodol neu'n feddw. Os gwrthodir taith i chi, nodwch rif y drwydded/rhif cofrestru'r cerbyd, yr amser a'r lleoliad a rhoi gwybod i trwyddedu@caerdydd.gov.uk. Os ydych yn teithio y tu allan i Gaerdydd, bydd angen i chi gytuno ar y pris gyda'r gyrrwr o flaen llaw ac nid oes rhaid defnyddio mesurydd:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w/17047.html

 

BETH YW'R RHEOLAU AR GYFER TACSIS LLOGI PREIFAT?Caiff cerbydau llogi preifat wrthod teithiau. Mae'n drosedd i yrrwr llogi preifat dderbyn taith heb archeb ymlaen llaw drwy weithredwr trwyddedig. Nid oes gan y cwmni yswiriant i fynd â chi oni bai yr archebir y daith o flaen llaw:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w/17047.html