The essential journalist news source
Back
23.
November
2017.
Gwybod y gwahaniaeth rhwng tacsis Cerbyd Hacni a cherbydau llogi preifat

Mae Cyngor Caerdydd yn codi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth rhwng cerbydau hacni (tacsis) a cherbydau llogi preifat.

Er bod y Cyngor yn trwyddedu'r ddau fath o gerbyd ac er bod gyrwyr trwyddedig wrth y llyw, maen nhw'n edrych ac yn gweithio'n wahanol iawn.

Mae tacsis un ai'n ddu gyda boned gwyn neu'n 'gerbydau tacsi Llundain' sydd ag arwydd ar y to pan fyddan nhw ar gael i'w llogi.

Mae modd hurio'r tacsis hyn ar y stryd neu gael un o orsaf dacsis, ac mae'n rhaid i'r gyrwyr ddefnyddio'r mesurydd i gyfrifo'r pris - os yw'r daith yn dechrau ac yn gorffen yn ffiniau Caerdydd.

Mae'n rhaid i'r rheiny sydd am deithio'r tu allan i Gaerdydd negodi'r pris â'r gyrrwr. Nid oes rhaid i'r gyrrwr ddefnyddio mesurydd a gall ofyn am daliad cyn cychwyn. Mae hwn yn gontract rhwng y gyrrwr a'r cwsmer.

Mae'n drosedd i yrrwr tacsi wrthod taith sy'n dechrau ac yn gorffen yn ffiniau Caerdydd heb esgus rhesymol e.e. mae'r cwsmer yn feddw neu'n amharchus.

Mae gan gerbydau llogi preifat hawl i wrthod teithiau. Mae hynny'n gwbl gyfreithlon ac mae'n drosedd i yrrwr llogi preifat dderbyn taith heb archeb ymlaen llaw drwy weithredwr trwyddedig. Nid oes gan y cwmni yswiriant i fynd â chi oni bai bod y daith yn cael ei harchebu ymlaen llaw. 

Nid oes gan gerbydau llogi preifat arwydd ar y to, ond mae ganddynt blât trwydded melyn ar gefn y cerbyd. Mae modd i'r rhain fod o unrhyw liw, heblaw am ddu gyda boned gwyn.

Os yw gyrrwr Cerbyd Hacni wedi gwrthod mynd â chi gan bod y daith yn rhy fyr, neu os nad yw'r gyrrwr/y cerbyd (cerbyd hacni neu logi preifat) yn cwrdd â'ch disgwyliadau, gallwch adrodd am hyn i Is-adran Trwyddedu Cyngor Caerdydd. Hoffwn ofyn i bawb sydd am adrodd am y materion hyn fod yn barod i roi tystiolaeth mewn cyfarfod Pwyllgor.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Hoffwn ofyn i bawb sydd am wneud cwyn yn erbyn gyrrwr ac sy'n fodlon ar roi tystiolaeth mewn cyfarfod pwyllgor, i gysylltu â ni fel bod modd i ni gymryd y camau sydd eu hangen. Mae arnom angen ychydig o fanylion, megis rhif y gyrrwr (ar y bathodyn ar y ffenestr flaen), y plât trwydded, y plât cofrestru, a dyddiad, amser a lleoliad y digwyddiad. Dylid adrodd amdano drwy e-bostiotrwyddedu@caerdydd.gov.uk.

"Os nad yw'r Is-adran Drwyddedu'n derbyn digon o wybodaeth, nid oes modd iddynt gymryd unrhyw gamau, felly adroddwch am y digwyddiadau hyn cyn gynted â phosibl."