The essential journalist news source
Back
16.
November
2017.
Cabinet yn cytuno i argymhellion i adfer afonydd y ddinas

Cabinet yn cytuno i argymhellion i adfer afonydd y ddinas

 

Bydd Cyngor Caerdydd yn hybu gwaith partneriaeth er mwyn mynd i'r afael â llygredd a gwella ansawdd afonydd a chyrsiau dŵr yng Nghaerdydd a Basn Afon ehangach De-ddwyrain Cymru.

Dengys adroddiadAdfer Afonyddfod ardaloedd afonydd Elái, Taf a Rhymni'n gweld gostyngiad yn nifer y pysgod, ansawdd dŵr gwael a halogi sy'n difrodi'r bywyd gwyllt a'r ecosystem leol a thynnodd yr ymchwiliad sylw at broblemau megis llygru, camddefnydd ceuffosydd a rhywogaethau ymledol.

O ganlyniad, mae Cabinet y Cyngor wedi gwneud sawl argymhelliad sydd â'r bwriad o hybu gwaith partneriaeth i fynd i'r afael â'r materion, mae hyn yn cynnwys llythyr wedi'i ysgrifennu i Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

Dywedodd y Cyng Michael Michaels, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Mae'n hollbwysig bod pobl yn ymwybodol o'r materion sy'n effeithio ar ein hafonydd a'n bod ni i gyd yn dod ynghyd i gymryd cyfrifoldeb dros eu gwella. Dylai pob trigolyn a busnes fod yn ymwybodol y gall camau amrywiol gael effaith niweidiol ar ein hamgylchedd a'n cyrsiau dŵr lleol.

"Er nad yr awdurdod lleol sy'n gwbl atebol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwaith partneriaeth er mwyn adfer ein hafonydd.

"Hoffwn gydnabod gwaith aelodau blaenorol y pwyllgor ar gyfer eu gweithgor a'u cyfraniad at yr adroddiad hwn."

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Daeth i'r amlwg bod pwysau bywyd modern yn cael effaith negyddol ar ein hafonydd lleol ac mae'r adroddiad hwn yn dangos bod angen mabwysiadu ystod o fentrau i fynd i'r afael â hyn, gan sicrhau bod ein hafonydd yn ffynnu ac y cânt eu hadfer. Mae angen gweithredu mesurau rheoli felly mae'n hollbwysig gweithio mewn partneriaeth. Drwy gydweithio fel partneriaeth byddwn yn cyflawni mwy."

 

 

Canfu taw'r prif bethau sy'n achosi llygredd yw camddefnyddio carthffosydd a chamgysylltu nwyddau gwynion fel golchwyr llestri a pheiriannau golchi - gyda'r dŵr o'r offer hwn yn cyrraedd cyrsiau dŵr lleol. Ymhlith y ffynonellau eraill sy'n creu llygredd mae sbwriela, gwastraff fferm gan gynnwys llaid a biswail a gwaredu braster, saim ac olew yn anghywir o allfeydd arlwyo.

Canfuwyd rhywogaethau estron ac ymledol fel Llysiau'r Dial, Ffromlys Chwarennog, Misglod Rhesog a Berdys Rheibus, sy'n effeithio'n andwyol ar yr ecosystem leol. Ar yr un adeg effeithiwyd ar rywogaethau fel eogiaid, brithyll, cochgangen, sliwennod ac anifeiliaid di-asgwrn cefn gan ddiwydiannu a threfoli, gyda chyflwyno adeileddau dynol fel coredau'n creu rhwystrau i bysgod mudol i'w silfeydd.

 

Cyflawnodd y Cyngor yr ymchwiliad hwn ar y cyd â Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadwch Gymru'n Daclus, Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru, Grŵp Afonydd Caerdydd, Genweirwyr Morgannwg a Groundwork Cymru.