Caiff yr adroddiad ar seilwaith, arferion teithio, bodlonrwydd ac effaith beicio ei gyhoeddi gan yr elusen cerdded a beicio flaengar Sustrans Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, bob dwy flynedd. Daw’r wybodaeth o ddata lleol, gwaith modelu ac arolwg ICM annibynnol sy’n defnyddio sampl cynrychioliadol o breswylwyr dros 16+.
Y prif ganfyddiadau yw:
·
79% yn cefnogi adeiladu mwy o lonydd beicio ymyl y ffordd
wedi eu diogelu, hyd yn oed pan y gallai hyn olygu llai o le i draffig arall.
·
Mae beiciau yn tynnu 11,008 o geir oddi ar ffyrdd
Caerdydd bob dydd, sydd gyfystyr â chiw traffig 33 milltir o hyd, sydd gyfystyr
â saith gwaith hyd Heol Casnewydd yng Nghaerdydd.
·
Mae bron i dri chwarter (71%) o bobl o’r farn y byddai
Caerdydd yn lle gwell i fyw a gweithio pe byddai mwy o bobl yn beicio.
·
Dim ond traean (34%) sy’n teimlo ei bod hi’n ddinas
ddiogel i feicio ynddi.
· Byddai 79% o bobl yn dymuno gweld mwy yn cael ei wario ar feicio.
Mae Sustrans Cymru wedi rhybuddio y gellid peryglu llewyrch Caerdydd yn y dyfodol gyda chynnydd mewn tagfeydd ac yn croesawu targed Caerdydd o weld 50% o bob taith yn cael eu gwneud un ai trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2021.
Wrth roi sylwadau ar ganfyddiadau’r adroddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru, Steve Brooks: “Mae Caerdydd mewn perygl o ddioddef oherwydd ei llwyddiant ei hun. Fel y brifddinas sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop, mae mwy o bobl yn dewis y ddinas i fyw, gweithio a mwynhau eu hamdden ynddi. Daw’r llwyddiant hwn â’i heriau ei hun ac mae nawr yn hanfodol ein bod yn rheoli tagfeydd yn effeithiol er mwyn sicrhau fod y ddinas yn parhau i lewyrchu ac yn lle da i fyw ynddo.
“Mae Bywyd Beicio Caerdydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl sy’n byw yn y ddinas o’r farn bod beicio yn beth da ac yn llawer mwy cefnogol o benderfyniadau dewr ac uchelgeisiol nag y mae'r rhai sy’n penderfynu yn aml yn ei gredu. Maen nhw am weld gofod wedi ei neilltuo i bobl ar feics hyd yn oed pan olyga hyn fynd â gofod oddi ar geir.
“Mae dinasoedd mawrion nawr yn dechrau deffro i’r ffaith fod angen i ni ddylunio ar gyfer pobl, nid ar gyfer cerbydau modur a bod buddsoddi mewn beicio a cherdded yn allweddol i gadw dinasoedd i symud, ac i wella iechyd a hyfywedd economaidd.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Mae twf Caerdydd wedi rhoi i ni gyfle hanesyddol i wneud y gorau o’n potensial a dod yn brifddinas gwirioneddol ar lwyfan byd, lle caiff manteision twf eu teimlo gan ein holl ddinasyddion, ein rhanbarth a’n cenedl, ond daw’r cyfle â heriau hefyd.
“Er y 12 miliwn o deithiau a wneir ar gefn beic yng Nghaerdydd eleni, teithiau mewn ceir preifat sy’n tra-arglwyddiaethu ar ein system drafnidiaeth – os yw twf ein dinas i fod yn gynaliadwy, mae’n rhaid i ni newid y modd y byddwn yn symud o gwmpas. Rydym yn benderfynol o flaenoriaethu dulliau cynaliadwy o deithio ac mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir fod mwyafrif preswylwyr Caerdydd yn cefnogi’r ymagwedd hon”.
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: “Sicrhau trefn gywir ar ein system drafnidiaeth yw un o flaenoriaethau pennaf y Weinyddiaeth hon. Yn ogystal â lleihau tagfeydd, mae mwy o bobl ar gefn beics yn golygu llai o allyriadau carbon, gwell ansawdd i'r awyr, iechyd gwell i drigolion a chwistrelliad i economi'r ddinas - yn syml mae teithio actif yn gwneud synnwyr.
“Mae ein strategaeth feicio ddrafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar eisoes wedi gosod ger bron res o fesurau er mwyn helpu i annog y 26% o bobl fyddai’n dymuno dechrau mynd ar gefn beic i fynd ar y daith gyntaf honno – mae’r cynlluniau yma’n cynnwys rhoi uwch briffyrdd beicio ar wahân ar waith yn raddol, cynllun posib i logi beiciau ar y stryd, ac uwchraddio llwybrau ar draws y ddinas fel y nodwyd yn ein Map Rhwydwaith Integredig.
“Rydym
am wneud Caerdydd yn ddinas feicio o safon byd – mae llawer i’w wneud er mwyn
gwireddu hynny a gwyddom na allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain, felly dyna
pam ein bod yn annog ac yn croesawu cefnogaeth weithredol ein partneriaid wrth
i ni weithio i wneud Caerdydd yn ddinas feicio o safon byd gwirioneddol."