The essential journalist news source
Back
10.
November
2017.
Canllaw ar wneud cais am le cynradd yng Nghaerdydd

Mae dechrau yn yr ysgol gynradd yn amser cyffrous i blant a rhieni, ond gall fod yn amser pryderus hefyd. Rhaid gwneud penderfyniadau ar yr ysgolion y gwneir cais amdanynt, ac yna aros i weld a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus.

 

Ond mae rhai pethau allweddol y gellir eu gwneud a fydd yn helpu i wneud y broses mor ddidrafferth â phosibl:

 

  • Ymweld ag ysgolion cyn gwneud cais er mwyn cael cymaint o wybodaeth â phosibl - gellir dod o hyd i restr lawn o ysgolion ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/ysgolion

  • Cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 8 Ionawr 2018

  • Defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael drwy wneud cais ar gyfer tair ysgol

 

Yn ogystal ag ysgolion cynradd awdurdodau lleol, a elwir yn ysgolion cymunedol, gall rhieni wneud cais yn uniongyrchol i ysgolion ffydd. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer y gwahanol fathau o ysgolion ar gael ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion

 

Amserlen ar gyfer gwneud cais am ysgol gynradd

 

Tachwedd

 

Ionawr

  • 8 Ionawr 2018 - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ysgolion cynradd 

 

Rhai pethau pwysig i'w cadw mewn cof wrth ymgeisio

 

  • Ni chynigir lle ysgol i chi os nad ydych chi'n gwneud cais

  • Nid oes gennych well siawns o gael lle mewn ysgol drwy ei rhestru fwy nag unwaith

  • Ni warentir lle yn ysgol eich dalgylch, ond mae'n well ei chynnwys ar eich rhestr flaenoriaeth, hyd yn oed os ydych chi'n ei nodi'n is ar y rhestr

  • Ni pheryglir eich siawns o gael cynnig lle yn eich prif ddewis drwy dderbyn cynnig am le mewn ysgol sy'n ddewis is gennych - mae dal modd i chi dderbyn cynnig gan eich dewis ysgol os daw lle ar gael ar ddyddiad hwyrach

  • Nid yw'r ffaith bod brawd neu chwaer eisoes mewn ysgol yn gwarantu lle yno, ond sicrhewch eich bod chi'n cynnwys eu manylion yn eich cais

  • Nid yw mynychu'r feithrinfa sy'n gysylltiedig â'ch dewis ysgol yn golygu lle awtomatig mewn dosbarth derbyn - bydd angen cyflwyno cais newydd

 

Gall cais hwyr effeithio'n sylweddol ar eich siawns o gael lle, felly nodwch y dyddiad cau. Dyma nodyn atgoffa:

 

  • Ysgolion Cynradd: Dydd Llun 8 Ionawr 2018

 

Os oes hefyd gennych blentyn sy'n mynd i'r ysgol uwchradd flwyddyn nesaf, dyma'r dyddiad cau:

 

  • Ysgolion Uwchradd: Dydd Llun 4 Rhagfyr 2017

 

I gael gwybod mwy am y broses derbyn i ysgolion yng Nghaerdydd, ac i wneud cais ar-lein, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion