Bydd pob un o'r ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau yn ystod gêm Cymru ac Awstralia yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 11 Tachwedd.
Mae disgwyl y bydd torf o fwy na 70,000 ac mae'r awdurdodau yn cynghori pob deiliad tocyn i gynllunio eu taith ymlaen llaw a chyrraedd Cymru a Chaerdydd mewn da bryd.
Cynghorir y rheiny fydd yn cyrraedd mewn car i gadw lle yn y lleoliad Parcio a Theithio drwy ddilyn y ddolen hon -https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Ddydd Sadwrn 11 Tachwedd bydd ffyrdd canol y ddinas yng Nghaerdydd yn cau rhwng 1.45pm ac 8.15pm.
Bydd y gatiau i'r stadiwm yn agor yn gynt na'r arfer am 2.15pm a bydd y gêm yn dechrau am 5.15pm.
Mae'r sawl sy'n dod i'r stadiwm i weld y gêm yn cael eu cynghori y bydd pobl yn cael eu chwilio er diogelwch, felly mae'r Awdurdodau'n cynghori gwylwyr i neilltuo amser ychwanegol i fynd i mewn i'r stadiwm.
Bydd Cyngor Caerdydd yn agor y ffyrdd pan fydd yn ddiogel gwneud hynny ar ôl y digwyddiad. Fel arfer bydd hynny'n digwydd awr ar ôl i'r gêm ddod i ben.
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas:
Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
Heol Saunders o'i gyffordd â Heol Eglwys Fair.
Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
Heol Penarth o'i gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sydd yn arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Rhodfa'r Heol y Coleg a Gerddi'r Orsedd.
O 5.15pm tan i'r ciwiau am drenau leihau, ni chaiff cerbydau deithio ar Rodfa'r Orsaf. Bydd modd i gerbydau adael maes parcio Canolfan Siopa Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward/Rhodfa'r Orsaf tua'r gogledd, tuag at Heol Casnewydd/Dumphries Place.
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd fydd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd cyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bod y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos fod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud..
Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.
Parcio a Theithio
Ceir - Mae mynediad at y safle parcio a theithio oddi ar gyffordd 33 yr M4
Safle Parcio a Theithio Lecwydd.
Man gollwng: Tresilian Way tua'r Gogledd (y tu ôl i'r orsaf drenau)
Pellter o ganol y ddinas: 1.5 milltir (10 i 15 mun)
Cost: £10 neu £8 os byddwch yn archebu ymlaen llaw
I archebu eich tocyn parcio a theithio ymlaen llaw,cliciwch arhttps://www.parkjockey.com/principality-stadium
Os byddwch yn archebu eich man parcio a theithio ymlaen llaw, argraffwch y cadarnhad archebu ymlaen llaw a'i ddangos i stff pan fyddwch yn cyrraedd.
Trenau
Mae Rheilffordd Network Rail a Great Western yn cynghori cwsmeriaid na fydd trenau’n teithio drwy Barcffordd Bryste nac yn stopio yno ddydd Sadwrn oherwydd gwaith peirianegol. Mae pob cwsmer yn cael ei gynghori i ddefnyddio gorsaf Filton Abbey Wood os byddan nhw’n teithio i’r gêm o ardal Bryste.
Cyn y gic gyntaf
- Bydd un trên bob awr o Lundain Paddington i Gaerdydd Canolog cyn y gic gyntaf a bydd hwnnw’n stopio yn Reading, Swindon, Filton Abbey Wood a Chasnewydd – a thrên ychwanegol am 10.45pm.
- Bydd dau drên yr awr o Temple Meads Bryste i Gaerdydd Canolog a bydd dau wasanaeth ychwanegol cyn y gic gyntaf am 10.09am ac 1.06pm.
- Bydd tri thrên ychwanegol i Gaerdydd Canolog; bydd un yn gadael Abertawe am 10.41am a bydd dau yn gadael Parcffordd Port Talbort am 12.10pm a 2.10pm.
Bydd rhagor o wasanaethau yn gadael o Gaerdydd Canolog ar wasanaethau trên prif linell ar ôl y gêm
- Bydd gwasanaeth trên ychwanegol i Lundain Paddington o Gaerdydd Canolog am 7.49pm.
- Bydd trên ychwanegol i Temple Meads Bryste a fydd yn gadael Caerdydd am 8.17pm.
- Bydd tri thrên ychwanegol i Abertawe a fydd yn gadael Caerdydd Canolog am 7.36pm, 11.16pm a 09.41pm.
Mae Trenau Arriva Cymru yn cynghori cwsmeriaid sy’n mynd i’r gêm deithio ar y gwasanaeth cyntaf posibl i Gaerdydd gan y bydd y gwasanaeth yn brysur iawn drwy’r dydd.
Gofynnir i gwsmeriaid brynu eu tocyn cyn mynd ar y trên a phrynu tocyn ar gyfer y daith yn ôl os ydynt yn bwriadu teithio yn ôl ar y trên.
Bydd rhagor o gapasiti yn ei ychwanegu at y gwasanaethau presennol cyn belled â phosib a gofynnir i gwsmeriaid gadarnhau amser y trên olaf sydd ar gael iddynt.
Ar ôl y gêm, bydd rhaid i gwsmeriaid gwasanaethau lleol Caerdydd a'r Cymoedd ddefnyddio gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd.
Bydd systemau ciwio ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog (ar gyfer y prif lwybrau) ac yng Ngorsaf Heol Heol-y-Frenhines Caerdydd (ar gyfer gwasanaethau lleol Caerdydd a’r Cymoedd).Edrychwch ar y cynllun ciwio atodedig i gael y manylion llawn o ran ba lwybrau a wasanaethir gan bob gorsaf.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Soffia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm y Principality, Gât 2).
Parcio Digwyddiad Gerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4
Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos
Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 11.30pm, gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Caiff unrhyw gerbydau gaiff eu gadael yn y maes parcio wedi'r amser cau ddirwy.
Canolfan Ddinesig (ceir, bysiau mini a bysiau)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4, anelu tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £12 ymlaen llaw ar-lein neu £15 yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. Bydd Sul y cofio'n dilyn y diwrnod, felly caiff ffyrdd eu cau a fydd dim caniatâd parcio.
I archebu man parcio ymlaen llaw, cliciwch: https://www.parkjockey.com/principality-stadium(ceir yn unig).
Parcio Digwyddiad Canolfan Ddinesig (bysiau a bysiau mini)
Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio i'r Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae Parcio i'r Anabl ar gael hefyd mewn amryw feysydd parcio preifat. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Tacsis - bydd y rhes dacsis ar Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau rhwng 1.30pm a 8.15pm.
Bysiau
Bysiau lleol:
Caiff bysus eu dargyfeirio allan o arosfannau bws Caerdydd Canolog. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Tudor Street tua'r gorllewin.
Bydd bysiau nos hyd ar gael gan Fws Caerdydd tan 3.30am ar lwybrau Trelái, Draenen Pen-y-graig, Llaneirwg a Phontprennau.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.