The essential journalist news source
Back
7.
November
2017.
Parcio deallus bellach ar gael ledled y ddinas

 

Mae Caerdydd yn ffarwelio â'r ffwdan o ffeindio mannau parcio wrth i system barcio clyfar newydd sy'n helpu gyrwyr i ddod o hyd i le parcio ar ap ffôn clyfar fynd yn fyw'r wythnos hon.

Mae Cyngor Caerdydd wedi gosod 3,300 o ddyfeisiau synhwyro mewn mannau parcio am ffi ac i bobl anabl ar y cyd â chwmni technoleg barcio; Smart Parking Limited.

Cyngor Caerdydd yw'r Cyngor cyntaf yn Ewrop i gyflwyno'r dechnoleg hon trwy rwydwaith ffyrdd y ddinas.

Mae'r Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Cynaliadwy a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd wedi amlinellu ei weledigaeth i annog cynifer o bobl â phosibl i ddefnyddio mathau eraill o drafnidiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Wild: "Er ei bod yn flaenoriaeth gennym ni annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu fathau eraill o gludiant, rydyn ni'n derbyn y bydd ar bobl angen defnyddio car preifat o hyd. Oherwydd hynny, rydyn ni am ddarparu'r dechnoleg i'w gwneud mor hawdd â phosibl parcio, i atal pobl rhag gorfod chwilio am fan parcio am hydoedd.

 "Rydyn ni wedi buddsoddi yn y cynllun hwn, felly rydyn ni am i bobl sy'n parcio yng nghanol y ddinas a'r cyffiniau lawrlwytho'r app am ddim - mae'n hawdd ei ddefnyddio a bydd yn help i'r gyrrwr a'r Cyngor. Mae tagfeydd a gyrru'n araf yn peri i geir ryddhau mwy o lygryddion o lawer, felly rydyn ni am i bobl ddod o hyd i fan parcio cyn gynted â phosibl."

Mae dyfeisiau synhwyro cerbydau wedi'u gosod yn y ffordd ac maen nhw'n synhwyro a yw'r man parcio'n llawn ai peidio gyda thechnoleg isgoch.

Mae'r data'n cael ei fwydo o'r dyfeisiau a gall gyrwyr yng Nghaerdydd lawrlwytho app o'r enw Parcio Caerdydd i chwilio gweld map cyfredol o fannau parcio sydd ar gael a chael eu cyfeirio at fan parcio gwag. Mae app Parcio Caerdydd bellach ar gael ar ddyfeisiau iOS ac Android yn Siop Apple a siop Google Play.

Mae Parcio Caerdydd hefyd yn gallu cysylltu defnyddwyr â gwasanaeth talu i barcio symudol Caerdydd - y mae MiPermit yn ei ddarparu - sy'n cynnig cadarnhad a negeseuon testun atgoffa am ddim.

Mae system dyfeisiau synhwyro mannau parcio Smart Parking eisoes ar waith yn llwyddiannus yn Awstralia, Seland Newydd, y Dwyrain Canol, De Affrica ac Ewrop.

Mae ei gyflwyno'n llawn yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a oedd yn cynnwys gosod 225 o ddyfeisiau synhwyro ar strydoedd gan gynnwys Rhodfa'r Amgueddfa a Maes Parcio Gerddi Sofia.

Dywedodd Paul Gillespie, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Smart Parking, ei bod yn bleser ganddo fod technoleg Smart Parking yn chwarae rôl allweddol o ran helpu i drawsnewid y profiad o barcio yng Nghaerdydd.

"Mae lansio system Smart Parking yn gam pwysig tuag at wireddu gweledigaeth Caerdydd o fod yn ddinas glyfar, yn ddinas safon uchel ac yn ddinas ar gyfer ei thrigolion. Drwy'r dechnoleg arloesol hon a'r wybodaeth y mae'n ei chasglu, bellach mae gan y ddinas y cyfle i ddeall deinameg traffig a pharcio'n well."

"Bydd app Parcio Caerdydd yn hynod fuddiol i bobl mae arnyn nhw angen parcio yng nghanol dinas Caerdydd. Bydd yn ei gwneud yn haws dod o hyd i fan parcio a bydd gyrwyr yn gallu cyrraedd pen y daith yn gynt ac yn fwy rhwydd. Bydd yn cyfrannu at leihau tagfeydd a llygredd sy'n cael eu gollwng wrth i geir chwilio am fan parcio."