The essential journalist news source
Back
6.
November
2017.
Parc Bute yn dathlu Siartr newydd ar gyfer Coed, Coedwigoedd a Phobl.
Bydd Parc Bute yn dathlu Siartr newydd ar gyfer Coed, Coedwigoedd a Phobl mewn digwyddiad arbennig pan fydd ychwanegiad newydd i'r Parc yn cael ei ddatgelu.

Mae’r parc, sydd yng nghanol y ddinas, wedi ei ddewis yn un o 10 safle yn y DU (a’r unig un yng Nghymru) i gael polyn Siartr Goed 15 troedfedd.  Mae pob un o’r deg polyn yn dynodi un o'r deg egwyddor sydd wrth wraidd y siartr.

Mae polyn Parc Bute yn cynrychioli'r egwyddor sy'n dathlu effaith ddiwylliannol cored - y ffordd y maen nhw'n rhan o wead celfyddyd, llenyddiaeth, chwedlau, enwau lleoedd a thraddodiadau - a bydd wedi ei greu'n arbennig o goed derw a dyfwyd ar Ystâd y Goron. Simon Clements o Ganolfan Goed Sylva sy'n gyfrifol am y gwaith cerfio. 

Bydd llinellau o farddoniaeth o waith Bardd Llawryfog y Bobl Ifanc, Sophie McKeand, wedi eu harysgrifio ar y polyn.Mae Sophie hefyd wedi ei chomisiynu i gyfansoddi cerdd arall, hirach, wedi ei hysbrydoli gan storïau y mae hi wedi eu casglu am y parc a’i goed mewn cyfres o weithdai creadigol a sesiynau galw heibio.  Bydd Sophie yn darllen y gerdd mewn digwyddiad am ddim ar 25 Tachwedd, rhwng 11am a 2pm.  Bydd ymwelwyr â’r parc hefyd yn gallu mwynhau perfformiadau acwstig gan gerddorion Cymreig traddodiadol ac amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu.

Bydd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, Y Cynghorydd Bob Derbyshire yn mynychu’r digwyddiad, a bydd dwy ‘daith coed’ yn cael eu cynnal – un ar gyfer teuluoedd â phlant, a’r llall ar gyfer oedolion.  Mae’r tocynnau am ddim, ond rhaid eu bwcio o flaen llaw. Bydd bwyd a diod hefyd ar gael.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Mae astudiaethau wedi dangos bod coed yn gallu cael effaith real ar iechyd, lles a hapusrwydd, felly mae’n wych bod Gardd Goed odidog Parc Bute wrth galon ein dinas.”

 “O gofio treftadaeth gyfoethog a chreadigol Caerdydd, mae’n addas iawn bod un o’n hoff barciau wedi ei ddewis i ddathlu’r egwyddor o fewn y Siartr Goed sy’n nodi dylanwad coed ar ein diwylliant.”

Dywedodd Arweinydd Project Siartr Goed yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, Matt Larsen-Daw:  “Yn ddwy flynedd o waith, wedi ei wreiddio mewn dros 60,000 o storïau gan bobl ledled y DU, ac yn ffrwyth cydweithio rhwng 70 o sefydliadau, mae’r Siartr Goed yn gynnyrch llafur cariad.  Ac mae’n addas iawn bod cyswllt rhwng y gair ‘cariad’ a’r siartr.  Mae’n adlewyrchu’r cariad mae pobl y DU yn ei deimlo tuag at goed.”

Mae’r tocynnau i'r digwyddiad am ddim, ond rhaid eu bwcio o flaen llaw drwy: 

https://www.eventbrite.co.uk/e/dathlur-siarter-goed-teulu-tree-charter-celebration-family-tickets-39217215748

https://www.eventbrite.co.uk/e/dathlur-siarter-coed-taith-tree-charter-celebration-seasonal-walk-tickets-39217555765