The essential journalist news source
Back
26.
October
2017.
Cau Rhodfa'r Bae yn ystod Gwaith Gwella; Ddydd Llun 27 Tachwedd - Dydd Gwener 8 Rhagfyr

Bydd y gwaith datblygu y mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn ei ariannu yn ehangu'r llwybr i gerddwyr a seiclwyr i gyfanswm o 7 metr. Bydd hynny'n gwella'r llwybr ac yn ei gwneud yn haws ei ddefnyddio ar gyfer hyd at 150,000 o bobl sy'n croesi'r Morglawdd bob mis.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r penderfyniad i ehangu llwybr cerdded y Bae yn ymateb i adborth i wella'r llwybr sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr y Bae.

Yn anffodus, ni fydd modd i gerddwyr gael mynediad i'r ardal hon tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo oherwydd rhesymau'n ymwneud â diogelwch a chan y bydd y contractwyr angen mynediad i'r ardal yn gyson.  Y gobaith yw y bydd rhoi gwybod i ddefnyddwyr y rhodfa am y gwaith fis ymlaen llaw yn rhoi cyfle iddynt wneud trefniadau eraill.  Bydd y parc sglefrio a'r ardal chwarae yn dal ar agor, ond noder mai dim ond o ochr Penarth o'r Morglawdd y gellir cael mynediad iddynt.

"Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i ymwelwyr fynd i atyniadau hamdden ar Forglawdd Bae Caerdydd, a safle'r digwyddiad ar gyfer Ras Fôr Volvo sy'n stopio yng Nghaerdydd ym Mai 2018 am bythefnos."