The essential journalist news source
Back
11.
October
2017.
Achub cerddoriaeth fyw yn y ddinas

 


 

Mae'r ymgyrch i sicrhau dyfodol cerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd wedi derbyn hwb mawr heddiw.

 

Mae arweinydd y Cyngor Huw Thomas wedi datgelu bod y Cyngor yn y broses o gaffael safle gwag ar Stryd Womanby a fydd yn amddiffyn ardal gerddoriaeth fyw Caerdydd.

 

Dywedodd y Cyng Thomas: "Ers yr etholiad ym mis Mai, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chlwb Ifor Bach a'r ymgyrch Achub Stryd Womanby i ddod o hyd i ateb a fydd yn sicrhau dyfodol cerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby.

 

"Yn amodol ar broses gyfreithiol, rwy'n falch o ddatgelu ein bod ni yng nghamau terfynol y broses o brynu'r tir oedd yn cael ei gynnig yn flaenorol ar gyfer datblygiad preswyl.

 

"Rydym hefyd wedi dechrau trafod telerau masnachol ar gyfer Clwb Ifor Bach i wneud defnydd o'r safle i alluogi'r lleoliad hwnnw i gael ei ymestyn."

 

Mae'r Cyngor Thomas wedi bod yn gweithio gyda'r grŵp Achub Stryd Womanby a sefydlwyd yn gynharach eleni pan godwyd pryderon y gallai datblygiadau preswyl a gwesty yn yr ardal arwain at leoliadau cerddoriaeth fyw'n cael eu gorfodi i gau o ganlyniad i gwynion am sŵn.

 

Dywedodd y Cyng. Thomas hefyd: "Drwy ymyrryd fel hyn, rydym yn diogelu calon cerddoriaeth canol ein dinas. Mae Stryd Womanby yn gartref i sawl lleoliad byw sy'n creu awyrgylch a rhanbarth heb fod yn debyg i unrhyw ran arall o'r brifddinas.

 

"Bydd rhai bandiau a cherddorion gorau'r byd, ar eu ffordd i frig y busnes cerddoriaeth, wedi perfformio yn y lleoliadau hyn ar ryw adeg yn ystod y 30 o flynyddoedd diwethaf a bydd miloedd o gefnogwyr cerddoriaeth wedi cael atgofion bythgofiadwy o'u hamseroedd yn y clybiau hyn."

 

Mae'r Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden  wedi nodi bod y Cyngor wedi cytuno i hwyluso Strategaeth Gerddoriaeth newydd ar gyfer y ddinas. Mae trafodaethau ar y gweill gyda chynghorwyr blaenllaw'r byd, Sound Diplomacy, i weithio gydag artistiaid, busnesau a lleoliadau lleol i lunio cynllun newydd ar gyfer tyfu'r sîn gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bradbury: "Mae Sound Diplomacy wedi gwneud gwaith gwych ledled y byd. Mae'n ymddangos eu bod yn edrych ymlaen i gael gweithio yng Nghaerdydd, ac rwy'n edrych ymlaen at gadarnhau eu hymwneud yn yr wythnosau nesaf."