The essential journalist news source
Back
6.
October
2017.
Trafod ymhellach newidiadau arfaethedig i wyliau ysgol a diwrnodau hyfforddiant mewn swydd

Bydd y syniad o symud gwyliau ysgol yng Nghaerdydd yn cael ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru i'w ystyried dan gynlluniau a roddwyd ymlaen mewn adroddiad i Gabinet y cyngor. 

Cafodd yr awgrym ei drafod gan Gyngor Caerdydd am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2016, pan nodwyd bod costau gwyliau yn llawer mwy drud pan fo'r ysgol ynghau. 

I rai teuluoedd, gall hyn olygu dewis rhwng peidio â chael gwyliau neu dynnu eu plant allan o'r ysgol yn ystod y tymor, gan darfu ar eu haddysg. 

Ers hyn, mae'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc wedi cynnal gwaith ymchwil i ganfod y lefel o gefnogaeth i'r syniad gan benaethiaid, athrawon a llywodraethwyr ysgol, gan gyflwyno'r canfyddiadau fel rhan o'r adroddiad i'r Cabinet. 

Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, rhaid i bob cyngor yng Nghymru sicrhau eu bod yn gosod tymhorau ysgol sydd yr un fath, neu sydd mor debyg ag y gallent fod, ledled y wlad. 

Golyga hyn bod rhaid cydlynu unrhyw benderfyniad i newid gwyliau ysgol yn sylweddol ledled Cymru, gyda chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'r newid mawr yng nghostau gwyliau pan fo'r ysgolion ynghau o'i gymharu ag yn ystod y tymor yn achosi problemau ariannol sylweddol i lawer o deuluoedd. 

"Mae wedi bod yn ddiddorol i weld yr amrywiaeth barn yn yr ymateb i'r syniad o newid y calendr ysgol yng Nghaerdydd, ond mae gen i gyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl wyliau ysgol yng Nghaerdydd yn unol â gweddill Cymru. 

"Bydd angen i ni gydweithio â Llywodraeth Cymru i ymchwilio i ddichonolrwydd ac effeithiolrwydd newid tymhorau ysgol." 

Ynghyd ag argymell bod y Cabinet yn cyfeirio'r awgrym i newid gwyliau'r ysgol i Lywodraeth Cymru i'w ystyried, mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod cyrff llywodraethu ysgolion yn gallu ystyried gosod eu diwrnodau hyfforddiant mewn swydd yn unol â gwyliau crefyddol. 

Bydd y Cabinet yn cwrdd dydd Iau, 12 Hydref i drafod yr argymhellion ac mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld ar-lein ar www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd.