The essential journalist news source
Back
3.
October
2017.
Penny Press UK Ltd yn cael eu gorchymyn i dalu mwy na £24,000

 

Cafodd Penny Press UK Ltd eu gorchymyn i dalu mwy na £24,000 yn Llys Ynadon Caerdydd.

Roedd hyn yn ymwneud â digwyddiad ar 29 Hydref 2015 pan gwympodd peiriant gwasgu ceiniogau coch yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays a tharo plentyn 5 oed, gan achosi anafiadau i'w ben a'i fraich.

Ymddangosodd Robert Davies, cyfarwyddwr Penny Press UK Ltd, yn Llys Ynadon Caerdydd ar ôl pledio'n euog i un drosedd dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.

Gofynnodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru i Penny Press Ltd addasu'r peiriant gwasgu ceiniogau i'w roi ar olwynion gan eu bod eisiau ei symud o gwmpas yr amgueddfa a'i arddangos mewn lleoliadau gwahanol.

Nododd yr erlyniaeth fod y cwmni wedi gwneud addasiadau heb ystyried yn ddigonol sut y byddai hyn yn effeithio ar sefydlogrwydd y peiriant, gan fethu â chynnal asesiad risg a methu â darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig i'r amgueddfa yn dweud bod angen ei roi ar dennyn.

Gan liniaru ar ran y cwmni, dywedodd Cwnsler yr Amddiffyn, Miles Bennett wrth y llys eu bod wedi derbyn y dylai cyfarwyddyd ysgrifenedig fod wedi'i roi ond eu bod wedi cydweithredu â'r awdurdod lleol, nad oes ganddynt unrhyw euogfarnau blaenorol, a'u bod wedi cymryd camau i unioni'r broblem a phledio'n euog ar y cyfle cyntaf.

Rhoddodd y Barnwr Rhanbarth Martin Brown ddirwy o £10,000 i'r cwmni am y drosedd, gan eu gorchymyn i dalu £1,000 o iawndal i'r plentyn yn ogystal â'r costau arbenigol o £10,000, costau'r awdurdod lleol o £3,544.70 a gordal dioddefwr o £170.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir rhwng Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr:

"Methodd y cwmni yn ei ddyletswydd i sicrhau bod y peiriant yn saff ar ôl iddo gael ei addasu.

"Gallai'r achos hwn fod wedi bod yn fwy difrifol o lawer a dylai busnesau gadw mewn cof eu bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch eu cyflogeion ond hefyd y sawl y mae eu gwasanaethau'n effeithio arnynt."