Rheoli Hylendid Bwyd yng Nghaerdydd
Mae disgwyl i Bwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd dderbyn eitem ar Reoli Hylendid Bwyd yng Nghaerdydd yn ei gyfarfod ar ddydd Mawrth, 3 Hydref 2017.
Yn y cyfarfod, bydd Cynghorwyr sy'n rhan o'r Pwyllgor yn adolygu'r gwaith a wnaethpwyd gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i sicrhau bod busnesau bwyd yn cyflawni'r safonau gofynnol; yn ystyried effeithiolrwydd mentrau megis y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd; yn edrych ar sut mae Caerdydd yn perfformio yn erbyn targedau perfformiad Cymru; yn ymchwilio i'r heriau y mae diogelwch bwyd yn eu hwynebu ac yn trafod beth all ei wneud i wella safonau ymhellach.
Eglurodd y Cynghorydd Ramesh Patel, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd, a fydd yn cadeirio'r cyfarfod:"Mae'r Cyngor yn cymryd y mater o hylendid bwyd yn ddifrifol dros ben gan ei fod yn effeithio ar bob person yn y ddinas. Mae Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd wedi penderfynu craffu'r mater hwn i ganfod a ydym ni fel Cyngor yn gwneud digon i sicrhau ein bod ni'n bodloni'r safonau gofynnol ac yn bennaf, yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn mewn modd digonol.
"Mae'n amlwg bod safonau diweddar megis y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi cael effaith bositif ar ddiogelwch bwyd yng Nghaerdydd, fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod ni fel Cyngor yn cadw llygad barcud ar bethau i sicrhau bod pob busnes bwyd yn bodloni'r safonau diogelwch bwyd gofynnol."
Bydd Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd yn derbyn yr eitem ar Reoli Hylendid Bwyd yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, 3 Hydref am 4.30pm.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ystafell Bwyllgor 4 yn Neuadd y Sir, ac mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu.
Gall y cyhoedd hefyd wylio'r cyfarfod ar we-ddarllediad byw drwy fynd ar:
https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/309873
I gael manylion am agenda'r cyfarfod llawn ac i weld papurau'r cyfarfod, ewch i:
http://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=3123&LLL=0