Cynhelir Gŵyl Inside Out ar Barc Bute yfory (Medi 30)
Er mwyn diogelwch y bobl hynny fydd yn gadael Parc Bute ar ddiwedd y digwyddiad, fe fydd ffyrdd ynghau yng nghanol y ddinas rhwng 10.30pm ac 11.30pm.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
Yr A4161 o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin,
Ffordd y Brenin o'r gyffordd â'r A4161 i'r gyffordd â Stryd y Castell
Stryd y Castell a Heol y Dug
Heol Dwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Dug i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan
Heol y Porth o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Stryd Havelock
Bydd mynediad i fysiau yn unig ar hyd Heol y Porth er mwyn troi i'r chwith ar hyd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen Caiff hyn ei reoli gan swyddogion traffig dim ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.