The essential journalist news source
Back
29.
September
2017.
DIRWYON I LANDLORDIAID HEB DRWYDDED AM HERIO DEDDFWRIAETH RHENTU DOETH CYMRU

DIRWYON I LANDLORDIAID HEB DRWYDDED AM HERIO DEDDFWRIAETH RHENTU DOETH CYMRU

 

Mae Rhentu Doeth Cymru wedi llwyddo i erlyn dau landlord arall am iddynt beidio â dod yn drwyddedig o dan y cynllun.

 

Canfuwyd y landlord Rowjee Singh a'r landlord o Gastell-nedd, Richard Howells, yn euog a'u dirwyo yn Llys Ynadon Caerdydd am droseddau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Rhentu Doeth Cymru yw cynllun cofrestru a thrwyddedu Llywodraeth Cymru ar gyfer pob landlord ac asiant sydd ag eiddo yng Nghymru. Mae'r pwerau gorfodi wedi bod yn weithredol ers 23 Tachwedd, 2016.

 

Yn dilyn yr erlyniadau llwyddiannus, rhybuddia llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl yng Nghymru, y bydd landlordiaid sy'n parhau i anwybyddu'r gyfraith yn cael eu canfod a'u herlyn.

 

Dywedodd y llefarydd: "Mae Rhentu Doeth Cymru yn derbyn adroddiadau rheolaidd am eiddo heb eu cofrestru a landlordiaid sydd berchen ar eiddo neu sy'n rheoli eiddo heb fod yn gofrestredig nac yn drwyddedig. Dengys yr erlyniadau hyn y byddwn ni'n dod o hyd i'r unigolion hynny sydd meddwl nad oes modd eu canfod.

 

"Rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru i nodi eiddo heb eu cofrestru a landlordiaid nad ydynt yn cydymffurfio ac yn cysylltu â nhw i'w hatgoffa o'i rhwymedigaethau cyfreithiol. Dengys yr erlyniadau hyn fod rhai sy'n amlwg yn anwybyddu'r rhybuddion, ond mae gweithgarwch gorfodi yn cynyddu momentwm a byddwn ni yn gweithredu."

 

Cysylltwyd â Miss Singh o Lansdowne Road, Treganna, Caerdydd, gan Rhentu Doeth Cymru ynglŷn â'r rhwymedigaeth i gofrestru a dod yn drwyddedig pan adroddwyd ym mis Mawrth eleni fod eiddo a osodwyd ac a reolwyd ganddi ar Manor Way, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, heb ei gofrestru. Fe'i hadroddwyd yn landlord heb drwydded yr un diwrnod.

 

Creodd Miss Singh gyfrif Rhentu Doeth Cymru, ond methodd â chofrestru unrhyw eiddo na gwneud cais am drwydded. Cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig iddi, na thalwyd ganddi ac ni chymerodd unrhyw gamau eraill i gydymffurfio â'r gyfraith.

 

Yn ei habsenoldeb yn y llys, cafwyd Miss Singh yn euog gan yr ynadon o dri throsedd a rhoi dirwy gwerth £1,980 iddi ynghyd â chostau gwerth £577,

 

Plediodd Mr Howells o Dan y Graig Terrace, Tregatwg, Castell-nedd yn euog i fethu â chael trwydded i osod a rheoli eiddo yn Dan y Bryn, Tonna, Castell-nedd.

 

Yn dilyn adroddiadau o'r eiddo heb ei gofrestru i Rhentu Doeth Cymru, aeth swyddogion ati i gysylltu â Mr Howells ac fe aeth yn ei flaen i gofrestru. Fodd bynnag, ni chyflwynodd gais wedi'i gwblhau am drwydded a chyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig iddo.

 

Methodd Mr Howells â thalu'r hysbysiad gan arwain ato'n cael ei erlyn am dri throsedd gan gynnwys methu â rhoi gwybodaeth am y cyfeiriad rhent o dan Adran 37 Deddf Tai (Cymru).

 

Rhoddodd yr ynadon ddirwy gwerth £687 i Mr Howells a gorchymyn iddo dalu costau gwerth £200.