Mae dechrau yn yr ysgol gynradd neu bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn gyfnod cyffrous i blant a rhieni.
Gall hefyd fod yn gyfnod llawn straen wrth benderfynu ar ba ysgolion i wneud cais ar eu cyfer, a rhieni a phlant wedyn yn gorfod aros i weld a yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.
Ond mae rhai pethau allweddol y gellir eu gneud a fydd yn helpu i wneud y broses mor ddidrafferth â phosibl:
Ymweld ag ysgolion cyn gwneud cais er mwyn cael cymaint o wybodaeth â phosibl - gellir dod o hyd i restr lawn o ysgolion ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/ysgolion
Cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiadau cau perthnasol a nodir isod
Gwneud cais am bum ysgol ar gyfer pontio i ysgol uwchradd, neu dair ysgol o ran derbyn i ysgol gynradd
Eleni, mae'r trefniadau derbyn i'r ysgol yng Nghaerdydd ychydig yn wahanol i rai awdurdodau lleol eraill, gan mai dyma'r lle cyntaf yng Nghymru i dreialu system gydlynol. Golyga hyn y gellir cynnwys rhai o'r ysgolion uwchradd sefydledig a ffydd ar yr un ffurflen. Yn y gorffennol, roedd yn rhaid cyflwyno'r ceisiadau hynny ar wahân, yn uniongyrchol i ysgolion.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer y gwahanol fathau o ysgolion (ysgolion cymunedol, ysgolion ffydd ac ysgolion sefydledig) ar gael ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion
Amserlen ac awgrymiadau ar gyfer gwneud cais
Hydref
Gofyn am wybodaeth am ysgolion o ddiddordeb a mynychu diwrnodau agored - nid oes gan rai ysgolion ddiwrnodau agored, ond efallai y gallwch ffonio a gwneud apwyntiad i ymweld â'r ysgolion dan sylw
Penderfynu ar eich dewisiadau ysgol a'u nodi yn nhrefn blaenoriaeth
2 Hydref 2017 - y dyddiad agor ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd (www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion)
Tachwedd
13 Tachwedd 2017 - y dyddiad agor ar gyfer ceisiadau i ysgolion cynradd
Rhagfyr
4 Rhagfyr 2017 - y dyddiad cai ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd
Ionawr
8 Ionawr 2018 - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ysgolion cynradd
Rhai pethau pwysig i'w cadw mewn cof wrth ymgeisio
Ni chynigir lle ysgol i chi os nad ydych chi'n gwneud cais
Nid oes gennych well siawns o gael lle mewn ysgol drwy ei rhestru'r fwy nag unwaith
Ni warentir lle yn ysgol eich dalgylch, ond mae'n well ei chynnwys ar eich rhestr flaenoriaeth, hyd yn oed os ydych chi'n ei nodi'n is ar y rhestr
Ni pheryglir eich siawns o gael cynnig lle yn eich prif ddewis drwy dderbyn cynnig am le mewn ysgol sy'n ddewis is gennych - mae dal modd i chi dderbyn cynnig gan eich dewis ysgol os daw lle ar gael ar ddyddiad hwyrach
Nid yw'r ffaith bod brawd neu chwaer eisoes mewn ysgol yn gwarantu lle yno, ond sicrhewch eich bod chi'n cynnwys eu manylion yn eich cais
Nid yw mynychu'r feithrinfa sy'n gysylltiedig â'ch dewis ysgol yn golygu lle awtomatig mewn dosbarth derbyn - bydd angen cyflwyno cais newydd
Gall cais hwyr effeithio'n sylweddol ar eich siawns o gael lle, felly nodwch y dyddiadau cau, dyma nodyn atgoffa:
Ysgolion Uwchradd: Dydd Llun 4 Rhagfyr 2017
Ysgolion Cynradd: Dydd Llun 8 Ionawr 2018
I gael gwybod mwy am y broses derbyn i'r ysgol yng Nghaerdydd, ac i wneud cais ar-lein, ewch i www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion