The essential journalist news source
Back
20.
September
2017.
Gweithio i fod yn Ddemensia Gyfeillgar

Gweithio i fod yn Ddemensia Gyfeillgar

 

Mae cynllun newydd wedi'i lansio yn y ddinas i gefnogi sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol i fod yn fwy demensia gyfeillgar.

 

Ar Ddiwrnod Alzheimer y Byd (Medi 21), mae Cyngor Caerdydd yn galw ar wasanaethau'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i ymuno â mudiad cymdeithasol sy'n gwella bywydau pobl yr effeithir arnynt gan ddemensia.

 

Mae'r ddinas wrthi'n gweithio â Chymdeithas Alzheimer Cymru tuag at greu cymuned sy'n gynhwysol ac yn gefnogol o bobl â demensia a bellach, mae'r Cyngor yn ceisio ymrestru cefnogaeth sefydliadau eraill er mwyn helpu i adeiladu Cymuned Demensia Gyfeillgar yng Nghaerdydd.

 

Mae cynllun addewid newydd ar waith sy'n cefnogi sefydliadau i ddysgu am newidiadau bach a sut i'w gweithredu er mwyn dod yn fwy demensia gyfeillgar ac mae nifer o sefydliadau eisoes wedi addo dod yn fwy demensia gyfeillgar.

 

Drwy addo eu cefnogaeth, mae sefydliadau yn cytuno i gefnogi staff neu wirfoddolwyr i fynychu sesiwn ymwybyddiaeth Ffrindiau Demensia, er mwyn codi proffil demensia drwy arddangos y logo Demensia Gyfeillgar ac ymrwymo i drin pobl yr effeithir arnynt gan demensia â dealltwriaeth, urddas a pharch.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddod yn Brifddinas Demensia Gyfeillgar ac rydym ni nawr eisiau cymorth sefydliadau yn y ddinas i'n helpu i gyflawni'r nod hwnnw.

 

"Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'n amlwg mai demensia fydd yr her iechydol a chymdeithasol fwyaf yn ein hamser, felly rydym ni eisiau sicrhau, fel dinas, ein bod ni mor barod â phosibl i gefnogi'r rhai hynny yr effeithir arnynt gan y cyflwr, yn ogystal â'u teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau.

 

"Rydym ni eisiau i Gaerdydd fod yn rhywle lle y gall pobl yr effeithir arnynt gan demensia barhau i ffynnu a mwynhau bywyd, gan wybod yn iawn fod y gymuned ehangach yn deall ac yn cefnogi eu hanghenion.

 

"Mae gwaith gwych eisoes ar waith yn y ddinas ac rydym ni eisiau adeiladu ar hynny drwy annog sefydliadau i wneud addewid. Drwy addo bod yn fwy demensia gyfeillgar, bydd sefydliadau yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl yr effeithir ganddynt gan ddemensia, a pha un a yw'r newid hwnnw un mawr neu fach, bydd pob gweithred yn helpu. Rwy'n eu hannog nhw i addo eu cefnogaeth a lledaenu'r neges."

 

Dywedodd Melanie Andrews, Rheolwr Gweithrediadau Cymdeithas Alzheimer Cymru yn y De-ddwyrain: "Rydym ni'n falch iawn o weld Cyngor Caerdydd yn arwain y ffordd i wneud Caerdydd yn Gymuned Demensia Gyfeillgar.

 

"Mae gormod o bobl yn wynebu demensia ar eu pennau eu hunain. Mae mwy na 4,000 o bobl yng Nghaerdydd gyda demensia; mae hwn yn gam sylweddol i uno gyda nhw ar Ddiwrnod Alzheimer y Byd (dydd Iau).

 

"Mae cymuned demensia gyfeillgar yn ddinas, tref neu'n bentref lle y caiff pobl â demensia eu deall, eu parchu a'u cefnogi, a bod yn hyderus y gallant gyfrannu at fywyd cymunedol.

Gall Cyngor Caerdydd chwarae rôl allweddol wrth gefnogi pobl â demensia i barhau i ymgysylltu â'r gymdeithas a helpu i dyfu'r mudiad demensia.

 

"Rydym ni'n annog pobl, busnesau a sefydliadau ar draws y brifddinas i ddod ynghyd ar Ddiwrnod Alzheimer y Byd eleni ac uno yn erbyn demensia".

 

I nodi Diwrnod Alzheimer y Byd, caiff Neuadd y Ddinas, Caerdydd ei goleuo yn las - lliw symbol sgorpion llys Ffrindiau Demensia - heno i godi ymwybyddiaeth a nodi lansio y cynllun addewid.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Gymunedau Dementia Gyfeillgar, ewch i alzheimers.org.uk/dementiafriendlycommunities