The essential journalist news source
Back
20.
September
2017.
Cyngor Caerdydd yn codi yn y rhengoedd perfformiad

Cyngor Caerdydd yn codi yn y rhengoedd perfformiad

Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i wella yn y rhengoedd perfformiad awdurdodau lleol blynyddol.

Mae perfformiad Cyngor Caerdydd o'i gymharu â'r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru yn gosod Caerdydd yn y trydydd safle ar ddeg, pedwarsafle yn uwch na safle 17 y llynedd.

Dyma'r ail flwyddyn o'r bron lle gwelwyd Caerdydd yn codi yn y rhengoedd, sydd wedi eu llunio gan Uned ddata Llywodraeth Leol Cymru drwy edrych ar berfformiad mewn nifer o feysydd gwahanol gan gynnwys addysg, tai, trafnidiaeth, diwylliant, moderneiddio, ailgylchu a'r amgylchedd.

Mae'r ffigyrau, yn yr adroddiad Perfformiad Llywodraeth Leol yr Uned Ddata 2016-17, yn dangos y gwelwyd gwelliant ym mherfformiad mwyafrif dangosyddion y Cyngor ar rai'r llynedd.

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae hyn yn newyddion da dros ben ac mae'n braf gweld bod Cyngor Caerdydd unwaith eto wedi codi yn y rhengoedd perfformiad."

Dywedodd hefyd: "Mae'n hynod o braf gweld ein bod ni wedi gwella ein perfformiad mewn sawl maes o'i gymharu â'r llynedd."

Dywedodd hefyd: Wrth gwrs, fe wyddom na allwn orffwys ar ein rhwyfau a bod mwy i'w wneud.

"Byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i wneud ein gorau glas dros ein preswylwyr."

Yn ôl adroddiad yr Uned ddata, roedd perfformiad y mwyafrif o ddangosyddion y Cyngor yn rhagori ar y cyfartaledd yng Nghymru ac roedd mwyafrif y dangosyddion yn y ddau chwarter uchaf o ran perfformiad.

Roedd perfformiad addysg yng Nghaerdydd yn sylweddol well na'r perfformiad ar draws Cymru gyfan.

Fe ragorodd naw o'r 11 dangosydd perfformiad addysg ar rai y llynedd ac roedd y ddau arall o fewn trwch blewyn i ragori.

Mae'r meysydd eraill o gryfder ym mherfformiad Cyngor Caerdydd yn cynnwys swm y gwastraff gaiff ei anfon i'w dirlenwi, gwaredu tipio sbwriel anghyfreithlon o fewn amser penodedig, y cyfnod o amser a gymer i wneud Addasiadau Grant Cyfleusterau i'r Anabl a nifer yr ymweliadau â hybiau.

Y meysydd lle daeth Cyngor Caerdydd yn agos iawn i wella ar y llynedd oedd glendid y priffyrdd, ffyrdd mewn cyflwr cyffredinol wael a faint o wastraff gaiff ei ailgylchu.

Mae perfformiad y Cyngor yn cymharu'n llai ffafriol mewn meysydd sydd yn cynnwys y ganran o bobl ifanc sy'n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu yn seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol, nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden a chwaraeon yr awdurdod lleol, dychweliad eiddo sector preifat gwag i gael eu defnyddio a chyfraddau absenoldeb salwch y Cyngor.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng Huw Thomas: "Wrth gwrs, fe wyddom fod meysydd o hyd lle mae angen i ni wneud gwelliannau sylweddol.

"Mae gweledigaeth ddewr gennym o safbwynt sut y bwriadwn barhau i wella'r modd y darparwn wasanaethau sydd wedi ei ddatgan mewn manylder yn Uchelgais Prifddinas, ein cynllun pum mlynedd ar gyfer y ddinas.

"A byddwn yn parhau i weithio'n galed dros breswylwyr y ddinas gydag atebion mentrus a syniadau mawr, er gwaetha'r her gyllidebol sydd yn ein hwynebu."