The essential journalist news source
Back
19.
September
2017.
Benthyciwr Arian Didrwydded Honedig - Robert Gareth Sparey

Ymddangosodd BENTHYCIWR ARIAN DIDRWYDDED HONEDIG - Robert Gareth Sparey, 55, o Cilgant, Caerffili, o flaen Llys Ynadon Casnewydd heddiw, mewn cysylltiad â throseddau benthyg arian anghyfreithlon, gwyngalchu arian, mynd yn groes i Ddeddf Nodau Masnach 1994 a gwyrdroi a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Nododd Mr Sparey ei fod yn bwriadu pledio'n euog i'r holl gyhuddiadau ar wahân i wyrdroi a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r troseddau benthyg arian anghyfreithlon honedig yn cwmpasu 20 mlynedd, ac roeddent wedi digwydd yn Lansbury Park, a nodir fel y gymuned fwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Eglurodd y Barnwr Rhanbarth Martin Brown i Mr Sparey, oherwydd natur y cyhuddiadau - 'dim ond Llys y Goron allai ddelio â'r materion hyn.'

Rhyddhawyd Mr Sparey ar fechnïaeth amodol ac eglurwyd iddo na chaiff roi unrhyw fenthyciadau, casglu unrhyw arian ac nad oedd ganddo ganiatâd i fynd at unrhyw un o dystion yr erlyniad, cyfathrebu â nhw nac amharu arnynt.

Rhestrir yr achos yn Llys y Goron Casnewydd ar 17 Hydref 2017 ar gyfer gwrandawiad pled.