The essential journalist news source
Back
19.
September
2017.
Arbenigwyr yn dod at ei gilydd i drafod rhesymau dros gysgu ar y stryd

Arbenigwyr yn dod at ei gilydd i drafod rhesymau dros gysgu ar y stryd

Bydd arbenigwyr ar ddigartrefedd yn y ddinas yn annerch busnesau canol y ddinas mewn digwyddiad sydd yn ceisio egluro pam bod pobl yn cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd, a phroblemau eraill sy'n gysylltiedig â'r mater.

Bydd Cyngor Caerdydd yn gwneud cyflwyniad, ynghyd ag asiantaethau eraill megis Llamau, DrugAid, Pobl a bigmoose a phobl ifanc sydd wedi bod yn ddigartref. Bydd rhaid cael gwahoddiad i'r digwyddiad.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a fydd yn siarad yn y digwyddiad: "Daeth Chris Nott o Capital Law - sydd wedi trefnu'r digwyddiad hwn - atom, a gofyn i ni siarad â busnesau am y cynnydd yn y nifer o bobl sy'n cysgu ar y stryd, ac i egluro'r rhesymau drosto a'r hyn rydym yn ei wneud gyda'n partneriaid i wella'r sefyllfa.

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi dyblu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda hyd at 70 o bobl erbyn yn hyn wynebu'r ansicrwydd ofnadwy sy'n dod yn sgil bod yn ddigartref.

"Fel Cyngor, rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afaela chysgu ar y stryd. Dydyn ni ddim am weld neb yn y sefyllfa enbydus hon, ond os daw i'w rhan, rydyn am gynnig help iddyn nhw ddod ohoni.

Ers mis Ebrill, rydyn ni wedi helpu 74 o bobl i ddod oddi ar y stryd i gael llety.

Mae'n bwysig bod pobl yn deall bod gennym gyfleusterau, ar y cyd â'n partneriaid, i gynnig lloches i bobl a'u helpu i wella'u bywydau, ond mae cael pobl oddi ar y stryd ac i mewn i lety yn fater dyrys iawn. Mae mwy iddi na rhoi to dros eu pennau."

Mae disgwyl i ryw 100 o bobl ddod ynghyd yn y digwyddiad, a fydd yn cychwyn am 5pm yn y Novotel, brynhawn Mercher, 20 Medi.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn un o brif flaenoriaethau'r Cyngor a'n nod yw gweithio gyda phartneriaid i wireddu ein Strategaeth Cysgu ar y Stryd, sy'n cynnwys ‘Dim Noson Gyntaf Allan'. Rydym hefyd am roi cynlluniau newydd ar brawf, yn cynnwys model 'Llety'n Gyntaf' sy'n symud pobl yn syth o'r stryd i gartref.

 

"Rydym yn ymrwymedig i weithio gydag unigolion i'w helpu i ddefnyddio ein gwasanaethau, ac mae ein tîm Allgymorth yn gweithio 7 niwrnod yr wythnos, ddydd a nos, i siarad â phobl sy'n cysgu ar y stryd neu a allasai fod mewn perygl o syrthio i'r fagl honno. Rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau digartrefedd megis Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth a'r YMCA i ddarparu llety mewn hosteli, canolfan ddydd i'r digartref a gwasanaeth bws nos.

 

"Mae gan bobol sy'n cysgu ar y stryd faterion dyrys iawn i fynd i'r afael â nhw, fodd bynnag, ac weithiau maen nhw'n dewis peidio â manteisio ar y llety sydd ar gynnig, ac yn cysgu ar y stryd am flynyddoedd lawer. Yn yr amgylchiadau hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol gyda nhw yn ddyddiol.

 

"Yn anffodus, mae llawer o'r bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd yn dod o'r tu allan i'r ddinas, a does dim cysylltiadau lleol ganddynt. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau. Felly pan yw'n addas, rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i ailgysylltu â'u hardaloedd cartref.

 

"Rydym yn ddiweddar wedi cytuno ar gyllid ar gyfer nifer o brojectau cartrefu blaengar i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas, a bydd y rhain ar waith cyn bo hir."

 

Dywedodd Chris Nott, uwch bartner yn Capital Law, a threfnydd y digwyddiad: "Mae ymgyrch Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Pobl Ifanc Llamau yn fenter werth chweil, ac mae'n dda gennym fod yn rhan ohoni. Maen nhw eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a Michael Sheen a'i ddilynwyr, a'n gobaith yw y bydd y digwyddiad hwn yn fodd i ehangu'r drafodaeth i gynnwys y gymuned fusnes. Bydd yn ddifyr gweld sut fydd y busnesau'n ymagweddu tuag at y mater, pwnc nad yw fel arfer yn cael ei drafod ryw lawer yn y cylchoedd hynny.

 

Gobeithio y bydd y digwyddiad yn helpu'r gymuned fusnes i ddeall y sefyllfa'n well, er mwyn iddynt fod yn rhan o'r ymdrechion i fynd i'r afael â'r mater yn y dyfodol."