The essential journalist news source
Back
15.
September
2017.
Cerbydau gwastraff Glanach a Gwyrddach

Bydd cynlluniau am gerbydau gwastraff glanach a gwyrddach newydd a fydd yn casglu deunyddiau gwastraff ac ailgylchu'r ddinas yn cael eu trafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau nesaf (21 Medi).

Bydd caffael y fflyd gerbydau newydd arfaethedig yn cynhyrchu o leiaf 90% yn llai o nitrogen ocsid a gronynnau o bob cerbyd o'i gymharu â'r fflyd bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Mae allyriadau cerbydau yn un o brif ffynonellau llygredd aer yn y DU, felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud popeth yn ein gallu i leihau allyriadau niweidiol megis nitrogen ocsid a gronynnau. Rydym oll am weld dinas werdd ac mae'n bwysig bod y cerbydau y mae'r Cyngor yn eu rhoi ar y ffordd yn creu llai o lygredd."

Mae Cerbydau Casglu Ailgylchu a Gwastraff (CCA) yn pwyso hyd at 26 tunnell, yn symud ac yn stopio'n aml ac yn cael eu defnyddio hyd at 16 awr y diwrnod felly maent yn defnyddio llawer o danwydd.

Mae gan y rhan fwyaf o gerbydau gwastraff yn y DU beiriannau disel, ond bydd y caffael arfaethedig yn ymchwilio i opsiynau tanwydd eraill, gan gynnwys nwy naturiol cywasgedig a hydrogen.

"Rydym yn ymchwilio i ddatblygiadau technoleg rhyngwladol yn y maes hwn. Mae cerbydau trydan a hydrogen sy'n gallu cyflawni'r math hwn o waith yn dechrau dod ar y farchnad, ond mae angen i ni sicrhau eu bod wedi'u profi a'u rhoi ar waith i gyflawni'r hyn sydd ei angen mewn amgylchedd gwaith dwys. Mae cerbydau disel newydd yn dod ar y farchnad a fydd yn lleihau allyriadau hyd at 90% o'u cymharu â cherbydau presennol. Byddwn yn ymchwilio i'r hyn sy'n cynnig gwerth gorau am arian ac yn amddiffyn preswylwyr y ddinas orau."

Mae gwastraff bwyd yn cael ei gasglu mewn CCA ar hyn o bryd sy'n cael ei ddiweddaru fel nad yw'n gollwng a'u fod yn cydymffurfio â Deddfwriaeth Is-gynnyrch Anifeiliaid. Mae'r cerbydau hyn yn dioddef mwy o broblemau gweithredol na cherbyd arferol, felly bydd y broses dendro'n ymchwilio i CCA mwy effeithlon sy'n costio llai er mwyn casglu gwastraff bwyd.

Mae codwyr biniau trydanol sy'n codi biniau olwynion i'r cerbyd casglu hefyd yn lleihau'r defnydd o danwydd o 15%, felly bydd y broses dendro'n ymchwilio i'r opsiwn hwn hefyd.

Bydd opsiynau ariannu amrywiol hefyd yn cael eu hasesu gan gynnwys trefniadau perchnogaeth neu les, ynghyd ag opsiynau cynnal a chadw i sicrhau bod y cerbydau'n gweithio'n dda.

Bydd yr holl fesurau hyn yn cyflawni ffordd mwy fforddiadwy a chynaliadwy i gasglu gwastraff y ddinas.

Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn trafod y ffordd ymlaen arfaethedig er mwyn ymestyn y contract presennol i flwyddyn arall, gydag arbediad o hyd at £100,000 o'i gymharu â phris cychwynnol y contract.

Mae'r trefniant dros dro hwn wedi'i gynnig tra bod y caffael yn cael ei hysbysebu ledled y byd rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Ebrill 2018.

Mae disgwyl i'r fflyd gerbydau newydd ddod yn weithredol yn raddol o fis Medi/Hydref 2018.