The essential journalist news source
Back
15.
September
2017.
Angen esgidiau merched i ddynion “Droedio Milltir yn ei Hesgidiau”

Angen esgidiau merched i ddynion "Droedio Milltir yn ei Hesgidiau"

 

Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud apêl mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Cadwyn am roddion o esgidiau merched maint wyth neu fwy.

 

Mae'r cais anarferol hwn yn rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer ‘Troedio Milltir yn ei Hesgidiau', digwyddiad a fydd yn dod â dros 150 o ddynion ynghyd i gerdded milltir mewn esgidiau merched er mwyn cefnogi'r ymgyrch yn erbyn trais tuag at ferched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Bydd y digwyddiad hwn, sydd yn ei bedwaredd flwyddyn eleni, yn digwydd ddydd Gwener 20 Hydref 2017 a bydd yn cychwyn yng Nghastell Caerdydd.

 

Mae trefnwyr yn apelio am esgidiau merched er mwyn i'r dynion ‘wasgu eu traed iddynt' ar y dydd, felly os oes gennych esgidiau maint wyth neu fwy nad ydych yn eu gwisgo mwyach, neu os ydych yn fasnachwr â thomen o esgidiau merched wrth gefn y gallwch roddi rhai i ni, dewch â nhw.

 

Bydd mannau derbyn yng nghynteddau'r adeiladau canlynol:

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: Ymgyrch "Troedio Milltir yn ei Hesgidiau"yw un o brif ddigwyddiadau Caerdydd i hyrwyddo ymrwymiad ein dinas wrth Ymgyrch y Rhuban Gwyn, yr ymdrech fyd-eang fwyaf gan ddynion yn gweithio i ddod â thrais dynion tuag at ferched i ben. "Fel awdurdod lleol, ein nod yw codi ymwybyddiaeth am drais tuag at ferched, newid agweddau ac annog dynion i drafod y problemau hyn.

 

"Er bod elfen o hwyl i'r digwyddiad, mae'r neges yn glir iawn. Yn wir, mae'r daith yn dangos addewid cyhoeddus a gweladwy gan y rhai sy'n cymryd rhan na fyddan nhw'n goddef unrhyw fath o drais tuag at ferched.

 

"Os oes gan unrhyw un esgidiau merched o unrhyw fath, maint wyth neu fwy - nid esgidiau â sodlau yn unig - byddwch mor garedig â'u rhoddi at yr achos er mwyn i ni ddenu cymaint o ddynion â phosibl i fod yn rhan eleni."

 

Dywedodd Chris O'Meara, Prif Weithredwr Cadwyn: "Dechreuodd y digwyddiad hwn gyda phedwar dyn ar ddeg a oedd yn gweithio i Cadwyn, yn cerdded ar hyd Heol Casnewydd mewn esgidiau sodlau uchel ac yn dal baner i gefnogi. Mae'n wych gweld sut mae'r digwyddiad yn tyfu. Waeth faint o ferched sy'n cefnogi'r achos hwn, bydd dynion yn codi ac yn dweud bod trais domestig bob tro yn anghywir yn anfon neges gryfach. Rydyn ni'n awyddus iawn i barhau i gefnogi'r ymgyrch."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a Hyrwyddwr y Cyngor yn erbyn Cam-drin Domestig, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae Caerdydd yn falch o dderbyn statws y Rhuban Gwyn yn 2014, yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad sylweddol ein gweithwyr wrth ddod â diwedd i drais tuag at ferched. Nod yr ymgyrch hwn yw annog agwedd dim goddef o gwbl at drais domestig tuag at ferched ac fel cennad, rwy'n annog pobl i wisgo'r Rhuban Gwyn ac addo peidio â gweithredu, goddef nac aros yn dawel ynghylch trais tuag at ferched.

"Mae digwyddiad Troedio Milltir yn ei Hesgidiau wedi mynd o nerth i nerth dros y pedair blynedd ddiwethaf ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld mwy fyth o ddynion yn ymuno yn yr ymgyrch hollbwysig."

 

MaeTroedio Milltir yn ei Hesgidiauyn rhan o Ymgyrch y Rhuban Gwyn, mudiad mwyaf y byd gan ddynion dros ddod â thrais tuag at ferched i ben, y mae ei chefnogwyr yn gwisgo rhubanau gwyn.

Bob blwyddyn yn y DU mae dros filiwn o ferched yn goddef cam-drin domestig a dros 360,000 yn dioddef ymosodiad rhywiol. Er bod trais tuag at ferched yn digwydd yn aruthrol o amlach, gall unrhyw un ddioddef trais a cham-drin.

 

Cofrestrwch i fod yn rhan o ddigwyddiadTroedio Milltir yn ei Hesgidiau:

www.walkinhershoes.wales

Am ragor o wybodaeth am Ymgyrch y Rhuban Gwyn, ewch i'r wefan:www.whiteribboncampaign.co.uk

Ymunwch yn y drafodaeth#whiteribboncardiffvale

 

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dioddef cam-drin yn y cartref, gallwch ofyn am gymorth gan linell gymorth rhadffôn Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800 (llinell gymorth 24awr am ddim)www.livefearfree.gov.wales/cy

 

Yr terfyn amser ar gyfer rhoddi esgidiau fydd 5pm ddydd Mercher 18 hydref. Os nad oes modd i chi gyrraedd un o'n pwyntiau derbyn ond hoffech chi helpu, cysylltwch â Ryan Parry ar 029 2043 4473 neu Nicola Jones ar 029 2053 7009.