Mwy na 200 o alwadau i'r Cyngor am y difrod a achoswyd gan Storm Aileen
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r Cyngor wedi derbyn mwy na 200 o alwadau ynglŷn â Storm Aileen a achosodd ddifrod ar draws y ddinas neithiwr gan chwythu coed a changhennau drosodd. Mesurwyd cyflymderau gwynt o 48mya am 2am yn ystod anterth y storm a achosodd ddifrod i eiddo a cherbydau.
"Ymatebodd dri thîm o'r Adran Barciau i'r galwadau gan weithio'n ddiflino drwy'r nos. Gofynnir iddynt adrodd yn ôl a gorffwys wrth i griw arall o weithredwyr Llif Gadwyn sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig fynd allan i ddelio â'r problemau sy'n weddill.
"Nid oes unrhyw brif ffyrdd wedi'u blocio, ac rydym wrthi'n asesu'r effaith y gall y storm fod wedi'i chael ar ein parciau. Mae'r prif ffyrdd i mewn i'r ddinas ar agor ac mae ein timau nawr wedi clirio rhywfaint o'r ffyrdd bach a oedd wedi'u blocio gyda choed wedi disgyn dros nos.
"Mae coeden wedi cwympo ar do fflatiau sy'n berchen i'r cyngor yn Brynfedw, Llanedern. Cafodd ei y to ei wneud yn ddiogel neithiwr ond mae'n bosib y bydd rhaid gwneud rhagor o waith arno. Mae'r Adran Parciau a'r adran Dai wrthi'n trafod cam nesaf y gwaith a chaiff trigolion wybod y newyddion diweddaraf maes o law.
"Dros nos, cydlynodd y swyddog Dyletswydd Rheoli Argyfyngau wybodaeth ac roedd Tîm y Cyfryngau a Chyfathrebu wrthi'n trydar i'r cyhoedd o ran ba ffyrdd oedd ar gau. Bydd tîm y Cyfryngau a Chyfathrebu'n parhau i ddiweddaru'r cyhoedd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy'r dydd wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.
"Mae gwybodaeth gan breswylwyr yn cael ei hanfon at ein timau parciau. Cynhelir gwaith i gael gwared ar y rhwystrau ar sail blaenoriaeth ac ymdrinnir â materion drwy ein cynlluniau sefydledig."
Gellir gweld isod adroddiadau swyddogol o goed wedi disgyn ar draws y ddinas
Mill Road rhwng y gyffordd â Lisvane Road i'r de a'r gylchfan fach ar Mill Road a Heol y Delyn i'r gogledd.
Mae' goeden nawr wedi'i chlirio a'r ffordd wedi'i hail-agor.
Mae Aberporth Road rhwng Ffordd y Coleg a Boncath Road yn Ystum Taf bellach wedi'i hail-agor.
Mae Tŷ Gwyn Road a oedd wedi'i blocio bellach wedi'i hail-agor.
Mae Taith Taf, rhwng Parc Kailey a'r clwb rhwyfo dal wedi'i blocio gan goeden wedi disgyn.