The essential journalist news source
Back
13.
September
2017.
Cynhadledd ac Arddangosfa Ddigidol yn Tramshed

Cynhelir y gynhadledd ddigidol fwyaf yng Nghymru yn TramShed yn Grangetown ar 18 a 19 Medi.

I hwyluso'r digwyddiad o 6am, 15 Medi, tan ganol nos 20 Medi, bydd Pendyris Street ar gau i draffig, felly ni fydd modd i yrwyr deithio ar hyd y stryd hon i ymuno â Taff Embankment. Bydd Swyddogion Rheoli Traffig yn sicrhau mynediad i drigolion a cherddwyr pan fo'r ffordd ar gau.

Caiff yr holl yrwyr sy'n agosáu at Pendyris Street eu cyfeirio at gyffordd Heol Penarth/Clare Road.

Mae trefnydd y digwyddiad wedi rhoi gwybod i drigolion a busnesau lleol y bydd y ffordd ar gau ac mae arwyddion ffordd eisoes wedi'u gosod.

Am y pedair blynedd ddiwethaf, mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynnal yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Eleni caiff ei gynnal ym Mhrifddinas Cymru a disgwylir 2000 o bobl i fod yn bresennol dros y deuddydd. Bydd hyn yn codi proffil Caerdydd ymhellach fel lleoliad digidol sy'n dod i'r amlwg ac ychwanegu at y cyfle i fuddsoddi yn y ddinas.