The essential journalist news source
Back
11.
September
2017.
Llwyddiant yn Dubai i Gwmni Fin Tech o Gymru

 

 

 

Llwyddiant yn Dubai i Gwmni Fin Tech o Gymru

Mae cwmni technoleg ariannol o Gymru, sydd â chefnogaeth Cyngor Caerdydd, wedi dod yn un o'r unig gwmnïau yn y DU i ymuno â rhaglen gyflymu unigryw a newydd yn Dubai. 

Bydd Delio, cwmni sydd â phrif swyddfa yng Nghaerdydd, yn ymuno â chwmnïau Fin Tech o Azerbaijan, UDA, Dubai, India, Gwlad yr Iorddonen, Singapore a Sweden yn y project yn Dubai.

Dros 12 wythnos, bydd yr 11 cwmni sydd yn y rownd derfynol yn gweithio gyda sefydliadau ariannol a rhanddeiliaid eraill i greu datrysiadau go iawn i fynd ar ôl anghenion newidiol diwydiant gwasanaethau ariannol y rhanbarth.

Gwnaeth Cyngor Caerdydd roi cymorth ariannol i Delio a llety yng Nghanolfan Technoleg Busnes Caerdydd, sef unedau magu y Cyngor arSenghennydd Road.

Mae Delio yn helpu sefydliadau ariannol i gysylltu buddsoddiadau asedau preifat â chyfalaf gyda gwerth net uchel drwy lwyfannau label gwyn cysylltiedig.

Dywedodd y Cyng. Russell Goodway, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, bod y Cyngor wedi cefnogi'r cwmni wrth godi arian a thrwy roi cyngor busnes cyffredinol, ynghyd â darparu llety i Delio yn CTBC pan roedd yn gwmni newydd.

Dywedodd: "Hoffwn longyfarch Delio ar gael lle ar y rhaglen yn Dubai.

"Mae strategaeth y Cyngor o roi gofod magu i fusnesau newydd twf uchel yn gweithio, ac mae cwmniau fel Delio a'i sefydlwr yn aros yng Nghaerdydd ac yn ffynnu oherwydd y sail sgiliau cynyddol a chwmnïau yn y sector fin tech.

"Mae potensial y cwmni'n amlwg i'w weld drwy ei lwyddiant wrth gyflawni lle yn y rhaglen sbardun yn Quatar, yr unig un o'r DU."

Mae'r rhaglen sbardun yn cynrychioli cam nesaf yn strategaeth twf rhyngwladol Delio, i ehangu ei sail gleientiaid yn y Dwyrain Canol.

 

Dywedodd Gareth Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Delio: "Rhywbeth sy'n dilysu datrysiad Delio go iawn yw'r ffaith mai ni yw'r unig gwmni Fin Tech yn y DU i gael lle ar y rhaglen, ynghyd â'r rôl y gallwn ei chwarae wrth helpu sefydliadau i gysylltu buddsoddwyr preifat gyda chyfleoedd buddsoddi tramor.

"Ar hyn o bryd, mae 50% o incwm Delio yn dod o werthiannau allforio, ac mae cyfleoedd enfawr i ni yn Yr Emiraethau Arabaidd Unedig."

Mae gan Delio swyddfeydd yn Llundain, Manceinion a Brwsel hefyd. Mae ei gleientiaid yn cynnwys ING, UK Business Angels Association ac Align17; project buddsoddi effaith ar y cyd â sefydliadau megis UBS, PwC a Hamilton Lane.