The essential journalist news source
Back
5.
September
2017.
Gwasanaeth allgymorth newydd yn rhoi cyngor mewn Banciau Bwyd ledled y ddinas

Gwasanaeth allgymorth newydd yn rhoi cyngor mewn Banciau Bwyd ledled y ddinas

 

Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno gwasanaeth newydd fydd yn helpu rhai o drigolion mwyaf bregus y ddinas.

 

Bellach, mae Tîm Cynghori Allgymorth newydd yn cynnig help gyda materion ariannol ac yn rhoi cymorth i bobl ar sut i fynd ar-lein a dod o hyd i swydd ym mhob Banc Bwyd a Hyb ledled y ddinas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae ein timau Cynghori yn gwneud gwaith gwych yn cynnig ystod o help a chyngor ar reoli dyledion, creu cyllideb, cynyddu incwm a llawer mwy. Dros y blynyddoedd diwethaf, maent wedi helpu pobl i hawlio gwerth miliynau o bunnoedd o fudd-daliadau ychwanegol.

 

"Nid yw pawb yn hawlio'r hyn y maen nhw'n gymwys iddo oherwydd anawsterau wrth lenwi ffurflenni, neu nid ydynt yn gwybod bod budd-daliadau a grantiau eraill ar gael iddynt... Dyma lle mae ein Tîm Cynghori Allgymorth yn serennu!

 

"Rydym eisoes yn cynnig y gwasanaeth hwn yn Hyb y Llyfrgell Ganolog a hybiau cymunedol ledled y ddinas, ond mae'r ddarpariaeth allgymorth newydd hon yn mynd â'r gwasanaeth i'r lleoedd sydd ei angen fwyaf. Drwy fynd i fanc bwyd gall pobl gwrdd â'r tîm i ddarganfod mwy am y ffyrdd amrywiol y gallwn helpu gyda'u materion ariannol a chael gwybodaeth am wasanaethau cymorth cyflogaeth yn y ddinas. Gall y tîm hefyd fod o gymorth wrth chwilio am waith a chreu CV."

 

Sefydlwyd Banc Bwyd Caerdydd, ar y cyd â rhwydwaith Banciau Bwyd Trussell Trust, i gynnig bwyd brys i bobl mewn argyfwng ariannol. Darperir cigoedd maeth am dri diwrnod wrth dderbyn taleb, ac mae'r cig hwn yn dod o un o dros gant o ddeiliaid talebion ledled y ddinas.

Ers dechrau yn 2009, mae Banc Bwyd Caerdydd wedi gweld cynnydd bob blwyddyn yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth, ac yn 2016 gwnaethant roi bwyd i dros 14,000 o gleientiaid, sy'n gynnydd o 2,000 ar nifer 2015. Mae swm y bwyd a roddir hefyd wedi cynyddu bob blwyddyn gyda 127,000kg yn cael ei roi y llynedd, a daeth 28% ohono o gasgliadau archfarchnadoedd.

Erbyn hyn, mae gan yr elusen saith canolfan rannu ledled y ddinas.

 

Dywedodd Eleanor Sanders, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: "Ein nod parhaus yw ceisio rhoi gobaith i bobl sy'n ymweld â ni. Rydym yn ceisio lleihau tlodi ac, os yn bosibl, achosion y tlodi hwnnw mewn unrhyw ffordd y gallwn ni.

 

"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cynghori Cyngor Caerdydd. Gyda'r cyngor yn lleoli ymgynghorydd ym mhob un o'n canolfannau, gallwn adeiladu sail wybodaeth ymysg ein gwirfoddolwyr drwy wrando ar gyngor a dysgu ohono, a hefyd roi gwybodaeth fydd o bosib yn newid bywyd cleientiaid, megis sut i greu cyllideb a gwybodaeth ar y budd-daliadau sydd ar gael."

 

Mae cymorthfeydd wythnosol yn cael eu cynnal ym Manc Bwyd Eglwys y Bedyddwyr Woodville yn Cathays (dydd Mawrth 1-3pm), Banc Bwyd Eglwys yr Iachawdwr yn Sblot (dydd Mercher 1-3pm; dydd Iau 6.30-8pm), Banc Bwyd Eglwys y Ddinas yng nghanol y ddinas (dydd Iau 10am-12pm), Eglwys St Phillip Evans yn Llanedern (dydd Mercher 1-3pm; dydd Gwener 11.30am-1.30pm), Banc Bwyd Canolfan Gymunedol Llaneirwg (dydd Llun 12.30-2.30pm) a Banc Bwyd Eglwys y Bedyddwyr Grangetown (dydd Gwener 12-2pm).

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau cynghori, ewch i www.caerdydd.gov.uk/yrhyb neu am Fanc Bwyd Caerdydd ewch i www.cardiff.foodbank.org.uk.