The essential journalist news source
Back
24.
August
2017.
Adeiladu Lolfa Eco Bae Caerdydd drwy Uwchgylchu Sbwriel

Adeiladu Lolfa Eco Bae Caerdydd drwy Uwchgylchu Sbwriel

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) wedi dyfeisio syniad arloesol i ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau sydd wedi cael eu rhwydo o ddyfroedd Bae Caerdydd, gan daflu goleuni ar y broblem amgylcheddol o daflu gwastraff i'n cefnforoedd ar gam.

 

Ar gyfartaledd, mae 430 o dunelli o sbwriel a debris naturiol yn cael ei gasglu ym Mae Caerdydd bob blwyddyn gan yr Harbwrfeistr a thimoedd amgylcheddol, gan gynnwys eitemau fel teiars, poteli plastig, paletau pren a chasgenni cwrw.

 

Cafodd y saer coed lleol Gareth Davies o Big G Designs ei gomisiynu i uwchgylchu rhai o'r eitemau a gafodd eu casglu ac mae wedi creu Lolfa Eco'r Bae. Mae deciau pontŵn, bwiau, teiars, rhaffau, casgenni cwrw a hen faneri digwyddiadau wedi cael eu defnyddio i greu dodrefn unigryw ac o safon fel byrddau, cadeiriau ac ystolion bar. Mae hen gwch bellach wedi'i drawsnewid yn far, hyd yn oed.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Yn y diwylliant sydd ohoni, mae'n rhy hawdd taflu pethau a phrynu pethau newydd, ond mae'r project hwn wedi dangos beth y mae modd ei wneud gyda hen sbwriel.

"Mae'r eitemau sydd wedi cael eu creu'n cyrraedd safon godidog ac maen nhw'n amlygu cymaint o wastraff sy'n cael ei taflu i'n dyfroedd ym Mae Caerdydd. Gobeithio y bydd hyn yn darbwyllo pobl i beidio â defnyddio'r Bae i daflu gwastraff mewn modd anghywir yn y dyfodol."

 

Bydd Lolfa Eco'r Bae yn cael ei harddangos yng Ngŵyl Harbwr Caerdydd sy'n cynnal Cyfres Hwylio Eithafol ar benwythnos gŵyl y banc fis Awst eleni (26ain-28ain).

 

I gael cyfle i ennilldodrefnynunigryw, ewch i dudalen Instagram Cyngor Caerdydd @cardiff_council a thynnwch lun o'ch hun yn Lolfa Eco'r Bae. Anfonwch lun creadigol o'ch hun, o grŵp neu Boomerang, a gallech chi gipio dodrefnyn trawiadol ac unigryw ar gyfer eich cartref neu eich swyddfa. Rhannwch eich post â'r hashnod#BayUpcycle, a thagiwch@cardiff_council