Dathlu Diwrnod Annibyniaeth India yn y Plasty
Dathlwyd 70ain pen-blwydd Diwrnod Annibyniaeth India gyda dathliad arbennig yn y Plasty yng Nghaerdydd.
Yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 15 Awst, codwyd baner India, canwyd anthem genedlaethol India, torrwyd cacen pen-blwydd, gwnaed nifer o areithiau a chafwyd dawnsio bhangra ffantastig.
Trefnwyd y dathliad gan Raj Aggarwal, y Conswl Anrhydeddus dros India yng Nghymru, ac yn bresennol roedd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Bob Derbyshire, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gwleidyddion a llawer o westeion o'r gymuned Indiaidd.
Mae'r Diwrnod Annibyniaeth blynyddol a gynhelir ar 15 Awst, ac sy'n wyliau cenedlaethol yn India, yn nodi'r diwrnod y daeth y genedl yn annibynnol ar y Deyrnas Unedig.
Ar 15 Awst, 1947, pasiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Annibyniaeth India 1947 gan drosglwyddo sofraniaeth ddeddfwriaethol i Senedd Gyfansoddol India.
Dywedodd yr Arglwydd Faer: "Rwy'n falch o fod wedi cael fy ngwahodd i gefnogi ein cymunedau Indiaidd drwy eu helpu i ddathlu'r diwrnod arbennig hwn.
"Hoffwn ddiolch i Raj Aggarwal - y Conswl Anrhydeddus dros India yng Nghymru - am ei ymrwymiad i'w rôl a'i gymorth amhrisiadwy. Mae'n Llysgennad gwirioneddol dros Gymru ac India."
Ychwanegodd: "Mae pobl o India wedi gwneud cyfraniad aruthrol i'n dinas, yn ein heconomi, yn ein diwylliant ac yn ein cymunedau.
"Bu hanes o bartneriaeth hir a llwyddiannus rhwng y Cyngor a chymunedau Indiaidd lleol, gyda chynrychiolwyr y gymuned honno yn chwarae eu rhan yn natblygiad y ddinas.
"Y cyfraniadau hyn sy'n gwneud Caerdydd y ddinas fodern a fywiog yr ydym oll yn ei hadnabod."