The essential journalist news source
Back
16.
August
2017.
Triniwr gwallt yn y ddinas yn cael dirwy o £5,400 yn Llys Ynadon Caerdydd


Aeth y triniwr gwallt, Andreas Lazarou, o flaen ei well yn Llys Ynadon Caerdydd ac fe'i cafwyd yn euog o feddiannu 1,534 eitem anghyfreithlon yn cynnwys gwisgoedd ffansi anniogel i blant a theganau Pokémon ffug.

Gwnaeth Mr Lazarou, perchennog siop barbwr yn Tudor Street, Glan-yr-afon, bledio'n euog i 12 cyhuddiad yn y llys ar 14 Awst.

Ystyriodd yr Ynadon 32 trosedd arall.

Cychwynnodd yr ymchwiliad ym mis Gorffennaf 2016 gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir pan dderbyniwyd gwybodaeth bod Ialpha World, a oedd yn masnachu yn 373 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Treganna, yn gwerthu gwisgoedd ffansi ffug i blant.

Ar 11 Hydref 2016, aeth swyddogion Safonau Masnach i Lalpha World a chipio 1534 eitem.

Anfonwyd esiamplau o bob eitem at arbenigwyr i ddarganfod a oeddent yn ddilys ac a oeddent yn bodloni'r holl ofynion diogelwch.

Datgelwyd bod yr holl wisgoedd arwyr yn ffug a gwnaeth pob eitem arall fethu â bodloni o leiaf un o'r gofynion diogelwch, yn cynnwys llinynnau tynnu a oedd yn peri perygl o dagu a deunydd ffibr mewnol a oedd yn peri perygl o fygu.

Aeth swyddogion Safonau Masnach i'r siop, Ialpha World, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, yr oedd cwmni o'r enw Ialpha Hair Ltd yn ei rhentu a'i rhedeg.

Dangosodd yr ymchwiliad fod Andreas Lazarou, Hanson Court, Heol Glan Rheidol, Caerdydd yn un o ddau gyfarwyddwr a oedd yn berchen ar y cwmni.

Datgelwyd mewn cyfweliad gyda Mr Lazarou yn ddiweddarach mai ef yn unig a oedd yn gyfrifol am ddarganfod a phrynu'r holl eitemau anghyfreithiol a ganfu swyddogion y safonau masnachau.

Diddymwyd Ialpha Hair Ltd ar 23 Medi 2016.

Yn ystod y gwrandawiad ddydd Llun, dywedodd Brendon O'Leary a oedd yn cynrychioli Mr Lazarou mewn dadl dros liniaru'r gosb, mai triniwr gwallt oedd e yn ôl ei grefft a'i fod wedi sefydlu Ialpha Hair Ltd fel menter ar wahân i greu incwm ychwanegol.

Honnodd Mr Lazarou ei fod wedi cychwyn y busnes heb unrhyw wybodaeth na chymwysterau yn y diwydiant. Ni wyddai i ba ddyfnderoedd yr âi a nododd mai canlyniad diniweidrwydd llwyr oedd y troseddau.

Prynodd y nwyddau oddi ar y we a chredai eu bod yn rhai go iawn; talodd TAW arnynt hyd yn oed pan gawsant eu mewnforio i'r DU.

Nodwyd hefyd yn glir y rhoddodd Mr Lazarou gyfweliad llawn a gonest dan rybudd ac iddo roi cymorth i'r Safonau Masnach trwy gydol yr ymchwiliad.

Yn ystod y dedfrydu, cyflwynodd yr Ynadon ddirwy o £350 i Mr Lazarou am bob trosedd yn gysylltiedig â nwyddau ffug a £500 yr un am bob un o'r troseddau diogelwch.

Yn ogystal, cafodd ddirwy o £5,400, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £1,000 gyda gordal dioddefwr o £50.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir rhwng Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg: "Mae'r achos yn dangos pa mor bwysig yw hi i gadarnhau'r ffeithiau dro ar ôl tro cyn mewnforio nwyddau o dramor i'w gwerthu yn y DU.

"Mae safonau diogelwch wedi eu gosod am reswm. Hoffwn i ddiolch i'r holl swyddogion a fu'n rhan o'r ymchwiliad hwn.

"Mae'r ddirwy gan y llys yn neges glir nad ar chwarae bach yr ystyrir y troseddau hyn.

"Bydd ein swyddogion yn parhau i ymateb i unrhyw wybodaeth rydyn ni'n ei derbyn er mwyn dod â nwyddau anniogel a ffug oddi ar y strydoedd."