The essential journalist news source
Back
15.
August
2017.
Dal a chymryd cerbydau oddi ar y ffordd anghyfreithlon


Mae gyrru beics neu feics pedair olwyn oddi ar y ffordd ar dir agored y Cyngor neu ar ffyrdd heb yswiriant yn anghyfreithlon a chaiff eich cerbyd ei ddal a'i gymryd.

Neges ydy hon gan Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd wedi i saith beic arall gael eu dal a'u cymryd y penwythnos hwn fel rhan oYmgyrch y Mana Coch. Mae hyn yn dilyn gwaith a wnaethpwyd bythefnos yn ôl pan gipiwyd pum cerbyd o ardal Tremorfa.

Mae'r Cyngor yn derbyn nifer o gwynion gan breswylwyr am y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae'n ymrwymo i weithio â'r heddlu er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.

Cynhaliwyd pedwar deg pedwar ymgyrch ers i'r bartneriaeth ddechrau ym 2012 ac mae naw deg un o gerbydau wedi eu dal a'u cymryd.

Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu De Cymru, Joe Jones: "Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn fater difrifol i'r gymuned. Rydyn ni'n pryderu y gallai'r beics yma sy'n mynd fel cath i gythraul frifo rhywun, a hefyd yn pryderu am y sŵn sy'n niweidio safon bywyd y trigolion. Dim ond yn ddiweddar, roedd bachgen 13 oed yn lwcus iawn ar ôl iddo golli rheolaeth o'i feic cwad ar ffordd gyhoeddus yn Nhrelái a gyrru'n syth i mewn i fws a oedd yn dod tuag ato.

"Rydyn ni'n annog y cyhoedd i adrodd am unrhyw wybodaeth yn ymwneud â beiciau oddi ar y ffordd drwy anfon e-bost iopredmana@south-wales.pnn.police.uk. Rydyn ni'n dibynnu ar y gymuned i sylwi ar y pethau hyn, ac os gall y bobl roi gwybod i ni pwy sy'n gyfrifol am achosi niwsans wrth yrru beiciau oddi ar y ffordd ac ym mhle mae'r niwsans, yna gallwn ninnau sicrhau bod ein swyddogion yn y lle iawn, ar yr adeg iawn. I gofnodi achos parhaus, ffoniwch 101 neu 999 os yw'n argyfwng."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant: "Mae gyrru'r cerbydau hyn heb yswiriant yn peryglu'r gyrrwr ac eraill yn ogystal â chreu anfodlonrwydd ymysg y rhai sy'n byw ger parciau a thir agored Caerdydd.

"Does gan y Cyngor ddim grym i gipio'r cerbydau hyn , felly byddwn ni'n parhau i gydweithio â'r heddlu i weithredu'r ymgyrchoedd hyn.

"Mae'r holl gerbydau modur heb yswiriant sydd wedi'u dal a'u cymryd, yn cael eu cadw mewn storfa ac mae'n debygol y cân nhw eu dinistrio.

"Mae gennym ni gyfleuster ger Rover Way sydd am ddim i'w ddefnyddio, ond ‘dyw hynny ond pan mae ar agor. Os nad yw ar agor, does dim modd defnyddio'r cyfleuster gan nad oes unrhyw un yn goruchwylio ac nad yw'r yswiriant atebolrwydd cyhoeddusar gyfer y cyfleuster yn ddilys bryd hynny.

"Rydyn ni'n gofyn i bawb sy'n berchen ar gerbydau fel hyn ac sydd am eu gyrru nhw gysylltu â'r ganolfan foduro. Mae'n ddigon hawdd cofrestru a'r cwbl rydyn ni'n ei ofyn yw bod gyrwyr beiciau modur sy'n defnyddio'r trac, yn gwirfoddoli o'u hamser i helpu i redeg y cyfleuster. Felly i bob pwrpas, byddan nhw'n gwirfoddoli yn gyfnewid am ddefnyddio'r trac. Rydyn ni'n cynnal profion ar y cerbydau i sicrhau eu bod nhw'n ddiogel i'w gyrru, i sicrhau bod pob gyrrwr yn gwisgo offer amddiffynnol a bod y cyfleuster ar agor i bawb sy'n 7 oed neu'n hŷn."

I gael rhagor o wybodaeth ar sut mae cyrraedd cyfleuster MotoCross Caerdydd - ewch yma -http://www.totalmx.co.uk/tracks/Cardiff-Motocross-Centre-MX-and-Minibike-Track.php