The essential journalist news source
Back
9.
August
2017.
Baton Gemau’r Gymanwlad y Frenhines yn dod i Gaerdydd

 

Baton Gemau'r Gymanwlad y Frenhines yn dod i Gaerdydd

 

Bydd un deg chwech o bobl o Gaerdydd a ddewiswyd yn arbennig yn cymryd rhan yn Ras Faton y Frenhines Gemau'r Gymanwlad 2018 pan fydd yn cyrraedd y ddinas ar 5 Medi

 

Rhoddodd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II gychwyn i Ras Faton y Glannau Euraidd 2018 ym mis Mawrth a bydd yn cyrraedd Butetown, Caerdydd ar Ddydd Mawrth, 5 Medi fel rhan o'i daith 388 diwrnod drwy wledydd y Gymanwlad.

 

Bydd y baton yn teithio 230,000 cilomedr ar ei daith i'w gyrchfan olaf - sef seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad y Glannau Euraidd 2018 - ar 4 Ebrill 2018.

 

Mae Butetown wedi ei ddewis yn arbennig oherwydd ei safle hanesyddol fel un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y DU a bydd y ras gyfnewid yn ddathliad o dalentau a chyflawniadau amrywiaeth y boblogaeth yno.

 

Mae'r llwybr drwy Butetown yn 4km a bydd yr 16 fydd yn cludo'r baton - Arwyr Lleol, plant ysgol, gwleidyddion ac arwyr o fyd chwaraeon - yn cario'r baton ar hyd y llwybr.

 

Disgwylir i'r baton gyrraedd Caerdydd tua 3.45pm ar 5 Medi, pan fydd tacsi dŵr y Princess Katherine yn ei gludo o'r morglawdd ar draws y Bae at Gei'r Fôr-forwyn.

 

Bydd Gwir Anrhydeddus Faer Caerdydd, y Cyng Bob Derbyshire yno i'w gyfarch a bydd yntau wedyn yn cerdded gyda'r baton draw i'r Senedd lle bydd y cymal yn dechrau.

 

Bydd Cludwyr y Baton yn cerdded â'r baton heibio i'r Hen Ddociau i Butetown ac ar y ffordd bydd yn galw i mewn i Ysgol Gynradd Mount Stuart, Mosg Butetown, Coleg Caerdydd a'r Fro, a'r Eglwys Roegaidd cyn cyrraedd Canolfan Gymunedol Butetown am 5pm, am noswaith o ddigwyddiadau chwaraeon a pherfformiadau gan gynnwys cerddoriaeth.

 

Bydd y baton hefyd yn mynd i Barc y Gamlas lle bydd yna awyrgylch carnifal gyda dawnswyr, cerddoriaeth, a cheir carnifal o'r carnifal yr wythnos flaenorol. Caiff y ras ei chyfarch gan faneri o amrywiol genhedloedd, fydd yn addurno Christina Street a Sgwâr Loudoun.

 

Mae gwahoddiad i holl aelodau'r gymuned fynychu'r sioe i ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol Butetown.

 

Dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng Bob Derbyshire: "Mae'n anrhydedd gwirioneddol ac yn fraint i'r Arglwydd Faeres a minnau i gael croesawu'r baton i'r ddinas ac i gludo'r baton ar hyd rhan o'i thaith yma.

 

"Bydd yn gyfle gwych i ddathlu talentau a chyflawniadau poblogaeth amrywiol Butetown."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rwyf wrth fy modd bod Baton y Frenhines yn dod i Gaerdydd a Butetown ym mis Medi ar ei daith i seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad Glannau Euraidd 2018.

 

"Bydd yn achlysur hyfryd a byddwn yn annog pawb i ddod draw i fwynhau'r dathliad gwych yma o amrywiaeth ddiwylliannol Butetown."

 

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau'r Gymanwlad Cymru: "Mae Tîm Cymru yn dwyn ynghyd bawb sy'n cystadlu neu'n cefnogi ein hathletwyr i berfformio hyd eithaf eu gallu yng Ngemau'r Gymanwlad.

 

"Bydd y ras gyfnewid gynhwysol yma yn rhoi'r cyfle i bawb na all ddod i'r Glannau Euraidd i gael bod yn rhan o brofiad bythgofiadwy.

 

"Wrth i'r Baton deithio trwy Gymru, ein nod fydd dathlu ein diwylliant amrywiol a chyfoethog, ein hiaith a'n tirwedd ar lwyfan rhyngwladol."

 

Gemau'r Gymanwlad ac Ymerodraeth Prydain Fawr a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym 1958 oedd y cyntaf i lwyfannu Ras Faton y Frenhines.

 

Mae'r ras gyfnewid yn dynodi dathliad gweledol o undod ac amrywiaeth holl genhedloedd y Gymanwlad ac yn cario neges gan y Frenhines i athletwyr y Gemau, a gaiff ei darllen yn y seremoni agoriadol.