The essential journalist news source
Back
9.
August
2017.
Cadw Caerdydd i symud

Cyflwynwyd 14,054 o Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau) am dramgwyddau parcio a 29,234 o HTCau am yrru'n anghyfreithlon mewn lonydd bws, a stopio mewn cyffordd bocs melyn neu ar linellau igam-ogam yn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon.

Yr incwm ar gyfer y chwarter cyntaf hyd yn hyn yw £943,225 ond mae 6,493 o HTCau heb eu talu o hyd.

Wrth ystyried faint o arian y bydd yr HTCau hyn yn ei gynhyrchu, mae'r Cyngor wedi ystyried nifer cyfartalog yr apeliadau sy'n cael eu derbyn a nifer cyfartalog yr hysbysiadau sy'n cael eu canslo.

Yr incwm ychwanegol disgwyliedig o'r HTCau hyn yw £250,789.

Ar ôl ychwanegu hyn at yr £943,225 sydd eisoes wedi'i dderbyn, mae'r cyfanswm yn dod i £1,194,014.  

Bydd y costau ar gyfer y chwarter yn cyrraedd tua £1,167,848, sy'n rhoi gwarged tybiedig o ychydig dros £26,160. Mae'r costau'n cynnwys ad-daliadau cyfalaf ar gyfer yr offer sy'n cael ei ddefnyddio, y costau gweithredu a chost gwaith swyddfa a'r broses apelio.

Mae'r incwm a'r ffigurau cost yn seiliedig ar ragdybiaethau penodol.

Mae'r costau disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn gyfan yn cael eu rhannu â phedwar, sy'n rhoi'r costau amcangyfrifedig ar gyfer chwarter cyntaf 2017.

O ran yr incwm, gan fod cyfnod penodol o amser gan droseddwyr i dalu neu apelio, nid yw nifer yr hysbysiadau tâl a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod yn cyfateb i'r swm o arian a gafwyd.

Felly mae'n rhaid gwneud rhai rhagdybiaethau i sicrhau bod y gymhariaeth rhwng yr arian a gafwyd a'r costau yn ddilys.

Caiff unrhyw warged ei neilltuo ar gyfer gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd a thrafnidiaeth, a chaiff ei gyfuno ag unrhyw arian dros ben o feysydd parcio a chostau talu ac arddangos ar y stryd.

Yn 2016/17, buddsoddwyd £464,000 mewn gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd a thrafnidiaeth, gan gynnwys parthau 20mya, cynlluniau 75% o lefydd parcio i breswylwyr (llinellau ac arwyddion), arwyddion adborth digidol a pharthau clir ger ysgolion.

Yn 2017/18 disgwylir i'r buddsoddiad fod yn tua £622,000 gyda'r arian hwn hefyd yn cael ei wario i wella'r parthau clir y tu allan i nifer o ysgolion.  

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Dwi wedi gosod fy uchelgeisiau o ran sut mae angen i ni wella trafnidiaeth gyhoeddus i annog pobl i adael eu ceir gartref ac ystyried opsiynau eraill.

"Drwy ryddhau lonydd bws, byddwn yn cyflymu teithiau bws i'w gwneud yn ddewis gwell i drigolion a chymudwyr.

"Nid ydym yn rhedeg nac yn rheoli bysus yng Nghaerdydd, ond rydym yn ymrwymedig i wella'r seilwaith fel y gallwn helpu i wella'r gwasanaethau i'r holl weithredwyr."

Ychwanegodd: "Os bydd pobl yn glynu wrth Reolau'r Ffordd Fawr, ni chânt eu cosbi.

"Gofynnwn i bawb sy'n defnyddio'r rhwydwaith priffyrdd i gofio bod parcio'n anghyfreithlon, gyrru mewn lonydd bws a stopio'n anghyfreithlon mewn cyffordd bocs melyn neu ar linellau igam-ogam yn achosi tagfeydd diangen ac yn peryglu defnyddwyr eraill y ffordd."

Caiff rhagor o fanylion am elw archwiliedig gwirioneddol y cynllun hwn eu rhyddhau pan fyddant ar gael.