The essential journalist news source
Back
27.
July
2017.
Ymateb Ymgyrch Carwch Eich Cartref

Mae llawer o waith wedi ei wneud i lanhau strydoedd deheuol dinas Caerdydd dros y pum wythnos ddiwethaf.

Lluniwyd yr Ymgyrch Carwch Eich Cartref er mwyn gweithio gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr, fel y gallwn ni oll gydweithio i deimlo'n falch o'r cymunedau yr ydym ni'n byw ynddynt.

Yn rhan o'r ymgyrch, mae'r Cyngor yn mynd ati i gynnal gwaith glanhau yn ychwanegol at waith glanhau stryd arferol. Glanhawyd strydoedd Plasnewydd, Adamsdown, Sblot, Butetown a Grangetown, ac mae'r tîm wedi symud i Dreganna yr wythnos hon (24 - 28 Gorffennaf).

Yn ystod y gwaith ychwanegol dros y pum wythnos ddiwethaf, mae 138 o strydoedd wedi'u glanhau'n drylwyr ac ychydig dros 26 tunnell o wastraff wedi'i dynnu oddi ar strydoedd Caerdydd. Rydym hefyd wedi glanhau gwteri, wedi trwsio palmentydd ac wedi cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai hynny sy'n parhau i ddifetha'r amgylchedd yr ydym ni oll yn byw ynddo.

Dyma restr o'r gwaith ychwanegol a gyflawnwyd:

        Cafodd 138 o strydoedd eu glanhau'n drylwyr

        Cafwyd gwared ar 26.42 tunnell ychwanegol o wastraff

        Glanhawyd 1634 o gwteri

        Cymerwyd 568 o gamau gorfodi yn ymwneud â gwastraff

        Cafodd 35 o balmentydd eu trwsio

        Cliriwyd 48 achos o dipio anghyfreithlon

        Caiff 29 eiddo eu monitro ar gyfer amheuaeth o droseddau gwastraff

        Cynhaliwyd 27 o ymweliadau addysgol gyda thrigolion.

Mae grwpiau cymunedol wedi'u ffurfio ym mhob cwr o'r ddinas ac mae'r grwpiau hyn yn mynd ati i godi sbwriel eu hunain gan ddefnyddio offer a ddarperir gan y Cyngor. Anogir pawb sydd eisiau cymryd rhan i ymweld â'r wefan er mwyn dysgu sut y gallan nhw wneud hynny -http://www.keepcardifftidy.com/

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu, y Cynghorydd Michael Michael y gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda'r cyngor i gadw strydoedd y ddinas yn lanach.

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Yn aml, ychydig o amser ar ôl i'r cyngor lanhau stryd neu fan agored, gwelwn fod gwastraff newydd wedi ymddangos. Drwy weithio'n uniongyrchol â'r cymunedau hyn, rydym ni'n bwriadu creu ymdeimlad o falchder yn yr ardal. Felly, os yw trigolyn yn gweld rhywun yn taflu sbwriel ar y llawr, byddant yn fwy tebygol o ddweud rhywbeth wrthynt fel bod y llygrwr yn cychwyn sylweddoli nad yw'n dderbyniol. Mewn llawer i wledydd, mae'n gwbl annerbyniol gollwng sbwriel ar y llawr a dyma yw'n nod ni yn y pen draw. Mae'n rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd i gadw strydoedd y ddinas yn lân.

"Mae'r rhan fwyaf o drigolion yn llwyddo i roi eu gwastraff allan ar yr amser a'r dyddiad iawn, peidio â gollwng sbwriel nac yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon. Ein neges ar gyfer y nifer fach o drigolion sy'n tueddu i feddwl ei bod hi'n dderbyniol gadael gwastraff y tu allan i'w heiddo fel y mynnent, gadael i wastraff gronni y tu allan i'w heiddo, gollwng sbwriel neu dipio gwastraff yn anghyfreithlon - meddyliwch eto.

"Rydym ni'n darparu cyfleusterau i drigolion allu gwaredu ac ailgylchu gwastraff yn gywir. Rydym ni'n darparu cynwysyddion penodol ar gyfer mathau gwahanol o wastraff fel y gallwn gynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas. Drwy gydweithio, gallwn wella'r strydoedd mewn wardiau ar draws y ddinas, lleihau sbwriel a chynyddu'r gyfradd ailgylchu ymhellach er mwyn gwneud Caerdydd yn lanach ac yn wyrddach er lles pawb. Cymerir camau gorfodi yn erbyn y rhai hynny nad ydynt yn glynu wrth y rheolau."